MARWOLAETH.

Dydd Llun, bu John Alfred Jones, Beudy Mawr, farw, heb fod yn wael ond bythefnos gartref. Yr oedd yn wanaidd ei iechyd ers rhai blynyddau, a daeth y diwedd yn ddisymwth iawn. Yr oedd yn gymeriad neillduol iawn, ac yn un a hoffid gan yr ardal yn gyffredinol.

Bydd colled fawr ar ei ol yn eglwys Rehoboth, lle yr oedd yn weithiwr diflefl. Efe ydoedd arolygwr Ysgol Sul y plant.

Yr oedd tyrfa luosog yn ei angladd nawn Gwener. Gwasanaethwyd wrth y ty ac ar lan y bedd gan y Parch. Edward Powell, B.A.

Herald Gymraeg 07/07/1914