MARWOLAETH.
Drwg genym fynegi fod John Griffith, mab Mr. John Griffith, a'i briod, Brynffynon, Fachwen, wedi marw yn yr ysbyty, yn Lerpwl. Yr oedd wedi myned i weithio er's amser i Ashton, a cyfarfu a damwain yn y pwll glo, yr hon a droes yn y diwedd yn angeu iddo. Bwriedir dwyn ei gorph i'w briddo i fynwent Nant Peris, dydd Mercher (yfory) gyda'r gerybres i orsaf Llanberis. Bydd yr angladd yn cychwyn o'r orsaf am chwarter i ddau.Cydymdeimlir yn fawr a'i briod ifanc, sydd yn ferch i Mr. Robert John Parry, Ceunant Street, ac a'r teuluoedd lluosog yn y ddwy ochr.