LLANBERIS A'R CYLCH.

MARWOLAETH.

Dydd Mawrth, claddwyd Mr Morris Williams, Tanydderwen, Nant Peris.

Yr oedd yn dad i'r Parch Morris Williams, Baladeulyn. Bu yn flaenor yn Rehoboth am ddeugain mlynedd namyn un. Yr oedd dros ei bedwar ugain mlwydd oed.

Anhawdd oedd cael un o'i oedran mor ieuengaidd ei yspryd, ac yn cadw ei hun mor gyfochrog a syniadau yr oes. Yr oedd yn nodedig o selog, ac yn arweinydd da yn ei ardal, yn grefyddol a chymdeithasol.

Gwasanaethwyd wrth y ty gan y Parchn Pryce Ellis, Glasgoed, a David Williams, Cwm y glo, ac yn y fynwent gan y Parchn Tecwyn Parry, Pierce Owen, a J. 0. Jones.

Gwelsom y Parch Puleston Jones, M.A., hefyd yn y fynwent, a nifer fawr o flaenoriaid o wahanol ardaloedd.

Traddodwyd pregeth angladdol yn Rehoboth gan y Parch W. Williams, Talysarn.

Yr Herald Gymraeg 23/11/1897