WILLIAM ROWLANDS. VICTORIA VILLA, LLANBERIS.

Ionawr 29ain, 1902, yn 72 mlwydd oed, Mr. William Rowlands, Victoria Villa, Llanberis, yr hyn gymeross le yn ddisymwth tra ar y ffordd o'i swyddfa i'r ty.

Ymddengys ei fod yn cwyno y boreu hwnw, ond ni feddyliodd neb fod ei ddiwedd mor agos. Y noson flaenorol yr oedd fel arfer yn y seiat yn Capel Coch - lle y bu yn ddiacon ffyddlon am 22 mlynedd - ac yn cymeryd rhan flaenllaw yno.

Yr oedd yr ymadawedig yn un o'r cymeriadau mwyaf adnabyddus, ac yn fawr ei barch gan bawb a'i hadwaenai. Ers blynyddau bellach yr oedd wedi gadael y chwarel, ac yn gwneud masnach helaeth yn ngwerthiant glo.

Dydd Sadwrn daeth tyrfa fawr i'w angladd. Cynhaliwyd gwasanaeth yn Capel Coch : y Parchedigion canlynol yn cyneryd rhan, D. M. Richards, John O. Jones, Bala; William Thomas, Llanrwst; T. J. Wheldon, B.A., Dd. Hughes, M. A., J. Puleston Jones, M. A., a Dd. Jones, Disgwylfa. Chwaraewyd y 'Dead March' ar yr organ gan Mr. Brwynog Jones (Pencerdd Peris).

Cydymdeimlir yn fawr a'r teulu - priod merch, a phedwar o feibion - yn eu profedigaeth.

Chwefror 7fed, 1902