TYDDYNSHON. MARWOLAETH.
Chwith genym orfod cofnodi marwolaeth Mr D. Jones, Rowen, Felinheli, gynt o Tyddynshon, yr hyn a gymerodd le foreu Llun, Awst y 5ed, ar ôl tair wythnos o gystudd caled, ac efe yn 54 mlwydd oed.Genedigol o Leyn ydoedd, ac y mae iddo ddau frawd a chwaer yn byw yno yn awr. Yr oedd yn frawd tywel a siriol, a hynod syml a dirodres. Yr oedd yn frawd gweithgar mewn byd ac eglwys, a boddlonai ar rawd y dinod yng ngwinllan ei Arglwydd.
Gedy weddw, merch, a mab, sef y Parch. W. E. Jones, yr hwn sy'n Gaplan yn y fyddin yn Ffrainc, mewn galar. Dydd Iau claddwyd ei weddillion marwol yn mynwent newydd Llanbedrog.
Gwasanaethwyd gan y Parchn. J, Phyllips, Llanaelhaiarn, a D. R. Owen, Llangollen. Heddwch i'w lwch.