ANGLADD MR. WILLIAM DAVIES.

Dydd Mawrth,yn Llanbedrog cymerodd, angladd Mr. William Davies, Gloston House, Abersoch le. Bu Mr. Davies farw yn dra sydyn y dydd Gwener blaenorol yn ei 64 mlwjidd oed a chydymdeimlir a Mrs. Davies (gweddw), D. E. Davies (mab), a Mrs. Davies Llanbedrog (chwaer), a Mr. Davies (brawd).

Y Parch Rheidiol Roberts (Mon) oedd yn gwasanaethu yn yr angladd.

Y prif alarwyr oeddynt: Mri. D. E. Davies; Thomas Davies (brawd). Edward Morris, Caergybi: Lewis Davies, Pont Ddu; Evan Evans, Abersoch; Humphrey Jones, Llanbedrog; Griffith a Hugh Williams, Trefaes Bach; David a Robert Jones, Llwyn Onn; John Evans, Cilan; Abel Williams, Abersoch a llu o gyfeillion eraill.

Yr oedd Mr. Davies yn gymeriad adnabyddus a chymeradwy iawn.

Yr Herald Gymraeg 13/08/1918