LLANBEDROG MARW.

Wedi cyrraedd oedran da bu farw'r chwaer rinweddol, Mrs. Owens, Glanygors, un o'r gwragedd anwylaf a charedicaf, gofalus a doeth.

Bu'n treulio boreu ei hoes yn Rhydyclafdy, ac yn cerdded milltiroedd gyda'i theulu am flynyddau i'r "Capel Bach" (A.) yn Llanbedrog. Yr oedd yr achos yn wan iawn y pryd hynny, ond credodd y teulu hwn ynddo, a buont ffyddlon nes gweled capel mwy ac eglwys gryfach. Parhaodd yn ffyddlon tra daliodd ei nerth. a mynych y gwelwyd hi wedi cyrraedd y deml yn hynod wan. Llawenydd iddi oedd gweled y "llin fu'n mygu" am amser wedi dod yn fflam. Trwy ei marwolaeth collwyd yr hynaf o'r aelodau yn Zion.

Yr oedd Mrs. Owen yn gymydoges garedig ac yn gymeradwy gan bawb, ac uwchlaw pobpeth o ysbryd a bywyd crefyddol iawn. Claddwyd ei gweddillion ym Mynwent Llanbedrog. Cafodd angladd lluosog a pharchus.

Gwasanaethwyd wrth y tŷ a'r bedd gan y Parch. R. M. Edmunds (gweinidog). Gadawodd ferch gartref a mab (sef Capten Owen), yr hwn oedd yn hwylio tua'r porthladd ddydd yr angladd. Mawr oedd y disgwyliad am dano a garw y siom iddo fethu cyrraedd mewn pryd. Mae un brawd, sef Capten Roberts, Criccieth, ac amryw berthynasau eraill.

Yr Herald Gymraeg 09/07/1918