MARW'N GYNNAR.
Dyna hanes Laura, geneth fach Mr a Mrs Robert Thomas, Argraig, a hi ond 12eg mlwydd oed. Tra 'roedd yr hen flwyddyn yn dirwyn i'r pen, wele yrfa fer yr eneth fechan anwyl a thyner, a thlws yma yn terfynu ar y ddaear. Bu farw ychydig ddyddiau cyn y Nadolig.Cafodd. yr engyl un arall atynt i ychwanegu eu carolau nefolaidd i Iesu Grist erbyn y Nadolig. Cafodd ei chystuddio yn drwm, ond dioddefodd heb rwgnach dim. Yr oedd hi yn nodedig o dyner a charedig. Un o Blant Ffyddlawn Gobeithlu Horeb )(A.), yn dysgu adrodd a chanu nes swyno pawb ohonom. Un o blant dwysaf y gobeithlu ydoedd Laura, ac yn arwyddo y buasai yn addurn y fro pe cawsai.
Claddwyd ei gweddillion ym mynwent Llanbedrog, Rhagfyr y 26ain. Daeth tyrfa fawr i'r angladd.
Gwasanaethwyd yn y tŷ ac yn y fynwent gan y Parch R. M. Edmunds. Canodd plant y gobeithlu un o'i hoff ganeuon, "Hoff yw'r Iesu o blant bychain," cyn cychwyn wrth y tŷ yn hynod o swynol.
Dymunwn am i'r fam a'r tad a'r brawd a'r chwaer, a'r holl berthynasau dderbyn nerth i ymgynnal yn eu siomedigaeth lem o golli un mor anwyl a thyner, a hi eto ond blagur yn dechreu ymagor.