ANGLADD CHWAER IEUANC.

Trist iawn oedd hebrwng i'r gladdfa y chwaer ieuanc Miss Mary Thomas, Ty Gwyn, yn yr oedran cynar o 24 mlwydd oed.

Merch ydoedd i Mr a Mrs Griffith Thomas, Ty Gwyn. Dioddefodd gystudd caled yn dawel, ond er pob gofal, gwywodd yn raddol i'r bedd.

Daeth tyrfa luosog i'r angladd prydnawn Iau diweddaf. Gwasanaethwyd wrth y tŷ gan y Parch. D. Ynyr Hughes, B.A., ac yn y fynwent gan y Parchn. R. M. Edmunds a D. Ynyr Hughes.

Cydymdeimlir yn ddwfn a'r teulu trallodedig yn eu galar o golli un mor anwyl.

Yr Udgorn 24/05/1916