DAMWAIN ANGEUOL.

Dydd Mawrth y 7fed, taflwyd y cylchoedd hyn i fraw gan y newydd fod damwain ddifrifol wedi digwydd i Mr. John Jones, Pant y Wennol, Mynytho, yn nhwaith setts Llanbedrog. Ni wyddis i sicrwydd pa fodd y cymerodd le. Nid oedd ei bartner gydag ef ar y pryd ac yr oedd John Jones wrth ei orchwyl yn glanhau hollt er rhoddi pylor ynddi. Sylwodd rhai o'i gydweithwyr fod y rhaff yn ysgwyd, ac aethant i'r lle, a gwelwyd Mr. Jones wedi syrthio oddeutu 22 o latheni i ganol ceryg mawrion ar lan y mor. Er pob gofal y Dr. R. J. Evans, Pwllheli, a Dr. O. J. Evans, Abersoch, bu farw oddeutu wyth o'r gloch boreu Mercher, gan adael gweddw ac un mab ar ei ol. Yr oedd yn weithiwr gofalus, yn ddyn tawel a phwyllog.

Yn Horeb (A.) brydnawn Gwener, cynhaliwyd y trengholiad o falen Mr. O. Robyns Owen, Crwner. Yr oedd Mr. O. R. Jones, Arolygydd Mwynfeydd, yn bresenol a gwylid yr achos ar ran y teulu gan Mr. Hugh Pritchard, cyfreithiwr, Pwllheli. Yr oedd hefyd Mri. Williams a Wheeler, dau o'r cwmni yn bresenol. Blaenor y rheithwyr oedd Mr. William Williams, Lon Las.

Galwyd Mr. John Jones, mab yr ymadawedig i dystio mai corph ei dad oedd y rheithwyr wedi ei weled. Dywedodd mai mwnwr oedd ei dad, a'i fod yn 43 oed, ac iddo farw boreu yr 8fed cyfisol mewn canlyniad i'r ddamwain y dydd blaenorol. Tystiodd Mr. Jackson, foreman y gwaith iddo basio y lle y gweithiai y trancedig ychydig cyn i'r ddamwain gymeryd lle. Yr oedd y trancedig ar y pryd yn glanhau hollt yn y graig er rhoddi pylor i mewn. Wedi myned rhyw drigain llath yn mlaen, rhedodd un o'r gweithwyr ato gan ei hysbysu fod damwain wedi digwydd. Aeth yn ol ar unwaith.

Yr oedd un o'r gweithwyr, James Ellis, wedi cyrhaedd at y trancedig ac wedi ei godi ar ei eistedd. Yr oedd y tyst wedi archwilio y lle yn fanwl cyn ac ar ol y ddamwain, a methai a gweled fod dim o'r graig wedi dod i lawr. Yr oedd y trancedig yn un o'r gweithwyr mwyaf gofalus. Nid oedd gan y tyst syniad pa fodd y digwyddodd y ddamwain. Tystiodd James Ellis a John Jones, eu bod yn gweithio yn agos i'r trancedig. Clywsant dwfr a gwelsant y rhaff yn ysgwyd. Gwaeddasant i ofyn oedd popeth yn iawn, a chan na chawsant atebiad aethant i'r lle, ac er eu braw gwelsant y trancedig yn gorwedd yn nghanol ceryg ar lan y mor, dyfnder oddeutu 22 llath o'r man y gweithiai. Nid oedd ganddynt hwythau syniad pa fodd y digwyddodd y ddamwain. Pasiwyd rheithfarn o farwolaeth ddamweiniol. Amlygwyd cydymdeimlad a'r teulu, ac hysbyswyd ar ran y cwmni eu bod am ddwyn holl gostau y gladdedigaeth.

Herald Gymraeg 21/07/1914