MARWOLAETH.

Bu farw Mr. Lewis Closs Davies, Bronwylfa, North Road, nos Fercher, yn 47 mlwydd oed. Yr oedd yn adnabyddus iawn ymysg trafeilwyr Gogledd Cymru, fel cynrychiolydd ffirm baent o Bristol. Cymerai ran flaenllaw gyda materion perthynol i Eglwys Loegr, ac yr oedd yn athraw ffyddlon yn Ysgol Sul Dewi Sant. Yr oedd yn aelod o'r Seiri Rhyddion.

Cydymdeimlir yn fawr gyda'r weddw, eu dwy ferch, a'u mab naw oed, yn eu profedigaeth chwerw.

Yn ddiweddar priododd y ferch hynaf gyda'r Parch. M. Cooke, Conwy

Herald Gymraeg 28/07/1914


Y DIWEDDAR MR. CLOSS DAVIES.

Prydnawn Sadwrn claddwyd gweddillion y diweddar Mr. E. Closs Davies, Bronwylfa, North Road, yn Eglwys Llanbeblig. Yr oedd yr angladd yn un poblogaidd iawn ac yr oedd nifer o Seiri Rhyddion ac aelodau ac athrawon ysgol Sul St. Dewi yn bresenol. Y Parch. J. W. Wynne Jones (ficer) a wasanaethai. Y prif alarwyr oedd : Mrs. Closs Davies, Bronwylfa (gweddw), y Parchedig a Mrs T. Cooke, Conwy (mab-yng-nghyfraith a merch); Miss Florrie Closs Davies (merch); Master Llewelyn Closs Davies (mab); Mrs Rowlands (mam-yng-nghyfraith) a Mr. a Mrs. J. H. Wooding, Castle Square. Derbyniwyd nifer fawr o flodeudyrch. Dymuna Mrs. Closs Davies ddiolch i bawb ddangosodd eu cydymdeimlad a hwy yn eu profedigaeth lem.

Herald Gymraeg 04/08/1914