YSGALDIO I FARWOLAETH.
Y dydd o'r blaen ysgaldiwyd plentyn pum mlwydd oed, mab Mr. Hughes, 35, William Street, Caernarfon, i farwolaeth. Dywedwyd i'r plentyn syrthio ar ei gefn i lestriad o ddwfr berwedig oedd newydd gael ei dynu oddiar y tan a'i osod ar y llawr.Cynhaliodd Mr. J. Pentir Williams (Crwner) gwest ar gorff yr ymadawedig prydnawn Sadwrn.
Tystiodd Dr. Frank Thomas, Caernarfon iddo gael ei alw i gartref yr ymadawedig ddydd Mawrth diweddaf, rhwng saith ac wyth yn yr hwyr, a chanfu fod y plentyn, pedair oed, wedi ei ysgaldio'n dost. Gwelodd ef ddwywaith y noson hono. Nid oedd ef yn meddwl y buasai'n gwella o gwbl.
Cafwyd tystiolaeth y fam, Mrs. Fanny Hughes, priod Mr. William Henry Hughes, barbwr. Dywedodd mai y plentyn lleiaf a dynodd ei sylw a thra'n troi ei chefn syrthiodd Harold ar ei eistedd i bwced o ddwfr berwedig.
Bwriwyd rheithfarn o "Farwolaeth Ddamweiniol."