DAMWAIN YN GROESLON.

Prydnawn Mawrth, tua dau o'r gloch, cyfarfu William Jones, gwas Mr a Mrs Lloyd, Grafog, a damwainbrofodd yn angeuol iddo o fewn ychydig iawn o amser.

Yr oedd wedi ei anfon â yd i Felin Llwyn y Gwalch, ac wrth ddyfod yn ôl, newydd adael pentref y Groeslon, daeth y tren i'w gyfarfod a dychrynodd yr anifail. Aeth a'r drol drosto, gan anafu oddifewn yn arw. Galwyd y meddygon Roberts ag Owens, Penygroes, ond yn ofer.

Aeth y newydd trist i galon pawb o'r ardalwyr yn herwydd ei fod yn gymeriad hoffus a'i sel a'i fywiogrwydd yn od gyda phopeth o waith y cysegr, yn enwedig y canu. Yng ngwyl nos Calan, Brynrhos, yr oedd yn cystadlu ar yr unrhyw unawd, a thestyn ei gan oedd "Tata Tata" i'r hen flwyddyn, ac wedi i wirionedd y gan gael ei gwblhau i'r hen flwyddyn, efe oedd y cyntaf i'r gwirion gael ei gwblhau iddynt o bawb oedd yn bresenol.

Peth arall rhyfedd yn ei hanes oedd ei fod ef a chyfaill iddo y noson cyn ei ddiwedd, yn sefyll yn agos iawn i'r fan lle y bu y ddamwain, ac i'r ymadawedig swnio canu "Ymado wnaf a'r babell."

Gan ei fod yn gyfaill mor hawddgar i blant y Band of Hope, a'r gymdeithas lenyddol, casglodd y rhai hyn at eu gilydd, a chafwyd wreath i'w gosod ar y bedd. Yr oedd yr ymadawedig yn aelod o eglwys Brynrhos, yn 21 oed, ac yn enedigol o dref Caernarfon.

Dydd Mercher bu trengoliad yn y Grafog, a bwriwyd rheithfarn o farwolaeth ddamweiniol.

Dydd Gwener hebryngwyd ei weddillion o Margaret Street, Caernarvon, i fynwent Llanbeblig. Cludwyd ei gorff gan bedwar o'i gyfeillion o'r ardal, wrth y tŷ ac i'r fynwent. Cafwyd gair wrth y bedd gan y Parch E. Arfon Jones, gweinidog ei eglwys.

Herald Gymraeg 13/01/1914