PARCH. DAVID JONES.
Ganwyd y Parch. David Jones mewn ffermdy o'r enw Tanycastell, ger Dolwyddelan. Yr oedd yn frawd i'r seraph-bregethwr John Jones, Talysarn. Yr oedd ei dad yn arolygwr mewn chwarel gerllaw ei gartref. Yr oedd ei dad a'i fam yn meddu ar alluoedd arbenig o bobl gyffredin. Ychydig o addysg gafodd bachgen Tanycastell; yr Ysgol Sul fu yr athrofa orau iddynt yn nyddiau eu maboed. Adroddir hanesyn doniol amdano yn pregethu i'r defaid, etc., ar fferm Tanycastell. "Y plentyn yw tad y dyn." Anogwyd ef i ddechrau pregethu ac aeth i'r ysgol yng Ngwrecsam er cyfaddasu ei hunan ar gyfer y weinidogaeth. Priododd gyda Mrs. Owen, a gadwai fasnach dillad yng Nghaernarfon. Bu hi farw yn 1857, ac ymneilltuodd yntau.Dechreuodd bregethu pan yn 21 mlwydd oed; ordeinwyd ef yn y Bala. Bu yn weinidog yng Nghernarfon, Treborth a Llanfairfechan. Fel "David Jones, Treborth" yr adwaenid ef oreu. Am yr wyth mlynedd o'i fyfwyd bu yn byw yn ymyl Pont Menai. Cyhoeddodd dair o bregethau meithion ar "Y Mab Afradlon," "Hunanaberth Crist," a "Dyn - ei gwymp a'i godiad trey ras." Ysgrifenodd hefyd, "Perffaith Gyfraith Ryddid."
Dywed un : "Yr oedd John yn well pregethwr na Dafydd, a Dafydd yn well bardd na John." Er hyn oll yr oedd David Jones yn bregethwr rhagorol, a chafodd rai oedfaon grymus iawn led led Cymru.
Yr oedd yn hynod am ei arabedd a'i ddonioldeb. Dywedir ei fod, un adeg, yn mysg amryw eraill o flaenoriaid a phregethwyr mewn Cyfarfod Misol gynhelid yng nghapel Engedi Caernarfon. Yr oeddynt newydd gael ciniaw, ac wedi ymneilltuo i un o'r ystafelloedd am "fygyn." Digwyddai fod yn faleor yn Engedi ar y pryd wrth-ysmygwr penboeth, a rhoddodd y rhybydd canlynol i fyny yn yr ystafell dan sylw : "Dim ysmygu yma." Ond nid oedd David Jones am gael ei ysbeilio o'i fygyn mor rwydd. Cymerodd gyllell o'i boced, a thorrodd y gair "Dim" ymaith. Ymhen ychydig amser daeth yr hen flaenor i'r ystafell, ac wrth weled y colofnau mwg yn ymddyrchafu gwaeddodd yn ddigllon, "Ai oni welwch chwi y rhybydd ar y pared yna." Ni chymerodd David Jones gyffro o gwbl, ac ar ol cael eglwys ac i'r mwg glirio, galwyd sylw y blaenor at y rhybydd, a ddarllenai fel y canlyn : "Ysmygu yma!" Aeth ymaith wedi ei goncro.
Adroddir amdano, un tro arall, ar adeg cynhaliad Cyfarfod Misol yng Nghaernarfon, yn anfon gwr o flaenor o'r wlad i ofyn cyhoeddiad i Ficer y dref, a ddigwyddai basio ar y pryd.
Clywais fod ef a'r Parch. David Williams, Caernarfon (Conwy wedi hyny) yn myned i'w cyhoeddiad mewn cerbyd. Araf iawn yr elai y cerbyd, a dywedodd David Jones wrth David Williams, "Mae y rhai hyn yn geffylau rhyfedd iawn; rhaid i chwi regi cyn y cyflymant." Dywedodd hyn o ran direidi. Ym mhen amser dywedodd David Williams wrtho, "Mr. Jones ai oni fyddai yn well i chwi roddi un reg fach rhag i ni fod ar ol!"
Yr oedd yn emynwr campus. Efe gyfansoddodd yn emynau a ganlyn :-
Pan hoeliwyd Iesu ar y pren
Pyrth uffern ddu a lonwyd
Ond dyblodd cyn y drydedd nef
Pan lefodd Crist 'Gorphenwyd!'
"Mae Duw yn llon'd pob lle." etc.
Ganwyd ef yn y flwyddyn 1805, bu farw Mehefin 23, 1868, yn 63 mlwydd oed. Claddwyd y gwr mawr hwn ym Mynwent Llanbeblig, Caernarfon. Wele ei fedd-adail :
Y Parch. David Jones,
Gynt o Gaernarfon, ac wedi hyny o Treborth,
Yr hwn a fu farw Mehefin 23ain, 1868, yn 68 mlwydd oed.
Wedi bod yn pregethu yr Efengyl ym mhlith
y Trefnyddion Calfinaidd am yr yspaid o 42 o flynyddoedd.
"Cyfraith gwirionedd oedd yn ei enau ef, ac anwiredd ni chafwyd yn ei wefusau; mewn hedd ac uniondeb y rhodiodd gyda ni, a llaweroedd a drodd efe oddiwrth Anwiredd" (Malachi ii,6.)