ENWOGION CAERNARFON - RICHARD JONES.

Ganwyd y bardd uchod yn yr Erw Ystyffylau, ym mhlwyf Llanwnda, Sir Gaernarfon. Saer maen ydoedd wrth ei alwedigaeth, a bu yn trigo am beth amser yng Ngaernarfon. Ffaith ddyddorol ydyw ei fod yn un o'r rhai a adeiladodd y ty y ganwyd Glasynys ynddo yn Rhostryfan. Yr oedd yn ymgeisydd llwyddianus mewn eisteddfodau. Efe ennillodd y gadair yn Eisteddfod Caernarfon, 1821 ar "Gerddoriaeth." Bu llawer o ymgecraeth yn adeg hono ynghylch y dyfarniad. Enillodd fathodyn yn Eisteddfod y Gwyneddigion Llanwrtyd, 1823, am awdl ar "Wybodaeth." Hefyd enillodd wobrwyon yn Eisteddfodau 1830 a 1837. Yn 1810 cyhoeddwyd casgliad o'i weithiau barddonol o dan y teitl "Peroriaeth Awen" (P. Evans, Caernarfon). Cyhoeddwyd ei awdl ar "Farwolaeth Syr Thomas Picton," yn "Awn Dyfed" o dan y ffugenw "Eidiol." Cyhoeddodd, hefyd awdlau ar "Wledd Belsassar," a "Drylliad y Rothsay Castle." Bu farw Mehefin 21ain, 1848, yn 62 mlwydd oed - a chladdwyd ef ym mynwent Llanbeblig. Wele ddisgrifiad o'r man y gorwedd :

Beddadail
Y Cadeirfardd a'r Hynafiaethydd hygled
Richard Jones
(Gwyndaf Eryri),
A aned yn yr Erw, Llanwyndaf,
Ac a fu farw Mehefin 21, 1848.
yn 62 mlwydd oed.

Clod penaf Gwyndaf glindeg - ni enwir
Yn unig ar garreg;
Ond ar drylen daflen deg
Bwrdd Anian a Barddoneg.
- Eben Fardd.

ANN JONES.
Gwraig y dywededig uchod,
Yr hon a fu farw ar 8fed o Chwefror, 1855,
yn 65 mlwydd oed.
Ac am Richard, eu mab,
A fu farw Rhagfyr 9, 1862
yn 33 mlwydd oed.


Herald Gymraeg 12/05/1914