FOURCROSSES - MARW'R HYNAF.
Bore Gwener diweddaf, bu farw Mrs Ellen Williams, 1 Rhesdai Fronerch, yn 94 mlwydd oed.
Ganwyd hi yn Ysgubor Uchaf, sydd erbyn hyn wedi adfeilio ar dir Bwlch y Ffordd Uchaf. Yr oedd yn un o bump o blant. Yr oedd ei thad a'i brawd yn seiri coed adnabyddus yn y cylch, ac y mae eu gwaith cywrain i'w weled eto ar hyd a lled y wlad. Yr oedd hi yn cofio yr hen gapel, a'r cewri fyddai yn dod i bregethu yno. Melys iawn oedd ei hatgofion am yr amser difyr hwnnw.
Aeth i wasanaethu yn ifanc iawn, a gwelodd amser caled. Bu yn byw am ddeng mlynedd ar hugain yng Ngwern Hiniog Bach, Llaniestyn, ac wedi dychwelyd i'r hen ardal bu farw ei phriod. Meddai ar gof eithriadol o hanes teuluoedd a hen gymeriadau yr ardal. Yr oedd yn aelod haelionus yn Ebeneser, a'r achos yn agos iawn at ei chalon.
Bu ei harwyl dydd Mercher diweddaf ym meddrawd y teulu ym mynwent Llanarmon. Gwasanaethwyd wrth y tŷ gan y Parch A J George B A B D Tyddyn Sion, ac yn y fynwent gan y Parch Oliver Harding B A Rheithor. Gadawodd un mab, Mr Robert Williams, a chydymdeimlir ag ef yn ei brofedigaeth a'i unigedd, ac a'r perthynasau oll.
Yn bresennol yn yr angladd yr oedd Mr Robert Williams (mab); Mri A Hughes Mur Cwymp; John Jones Gwern Hiniog Fawr, Llaniestyn; William Hughes Mur Cwymp; John Ifor Hughes Mur Cwymp a Goronwy Parry Pencaenewydd (perthynasau); Dr O Wynne Griffith, Pwllheli; Dr Charles Evans, Pwllheli; Mri Harri Parry Ty'n Llannor; William Williams Tyddyn Meilir, Abererch; David Williams, Llwyn Ffynnon; W W Jones, Y Siop; Moses Jones Morannedd; John Dobson, Rhesdai Fronerch; Owen Thomas, Tir Bach; Morris Thomas Central Meat Stores; Robert Williams, Siop y Gwynfa; ac Evan H Lloyd y Castell.
Dymuna'r mab, Mr Robert Williams, ddiolch i'r cyfeillion oll am y cydymdeimlad a ddangoswyd iddo yn ei brofedigaeth. Anfonwyd blodeudorch fel y canlyn : Oddiwrth Catherine, Mary a Grace Mur Cwymp yn Llundain : teulu Mur Cwymp; teulu Gwen Hiniog; teulu Morannedd a Miss Lilian Menai Jones 1 Rhesdai Eifion.