LLANARMON.
Gorchwyl pruddaidd yw gorfod cofnodi marwolaeth Mrs. Laura Jones, neu fel yr adnabyddid hi cyn priodi, Miss Laura Williams, Tyngors, Llanarmon. Ar ei gwyliau yr oedd newydd gyraedd gyda'i gŵr a'i bachgen bach i dreulio ychydig amser yn nghartref ei rhieni pan gymerwyd hi yn sydyn yn sal, ac y bu farw.Bu yn aelod ffyddlon iawn o Llanarmon hyd ei phriodas, pryd yr aeth i fyw gyda'i gŵr i Lerpwi. Cerddodd lwybr glân iawn am ddeng- mlynedd-ar-hugain, ac yn awr nid oes ond y perarogl melusaf ar ei hol. Bu yn aelod selog o'r Gymdeithas Ddiwylliadol yn Llanarmon, ac yr oedd yn gantores wych. Er yn byw yn Lerpwi, yn Llanarmon oedd ei chalon. Rhyw ddwy flynedd neu dair yn ôl, ymbriododd â Mr. W. Wood Jones, oedd a'i alwedigaeth yn Lerpwi, dyn ieuanc bucheddol a rhinweddol, ac ar lanau y Fersi y gwnaethant gartref cysurus, ac yno y bendithiwyd hwy â bachgen bach yr un ffunud a'i fam.
Claddwyd ei marwol ran yn mynwent Llanarmon ddydd Iau, pryd y gwasanaethwyd gan Reithor y plwyf a'r Canon Camber-Williams. Y nos Sul dilynol cynhaliwyd gwasanaeth coffa iddi yn Eglwys Llanarmon.
Cydymdeimlir yn fawr a'r teulu, y gŵr a'r plentyn bach, ei rhieni a'i pherthynasau.
Dyma fel y canodd Mr. David Davies, Tyngors, ar ei hol :
Mis Ebrill bu'r maes obru - alarwm
I Laura o'i thenlu -
Yn wraig fwyn, un oriog fu
Trwy ofid cyn cartrefu.
Y Llan 05/05/1916
LLANARMON YN EIFIONYDD. MARW A CHLADDU.
Yn ddiweddar, pan ar ymweliad a'i hen gartref yn y Gors, o'r lle uchod, torwyd i lawr yn sydyn Mrs. Laura Woods Jones, Llynlleifiad, clerc yn Ngorsaf Ganol y lle hwnw er yn blentyn.Cleddid yn erw dawel Llanarmon, a'r Parch. John Davies, B A. (Isfryn), y Rheithor, a'r Canon Camber-Williams, M.A., yr hwn oedd ar ymweliad â'r fro, yn gwasanaethu. Angladd anghyoedd ydoedd. Eglwyswraig feddylgar a selog ydoedd Mrs. Jones, ac erys ei gwên a'i bywyd siriol yn anwyl ac effeithiol i alw'n rymus arnom i'w llwybr glân. Heblaw cyd-ymdeimlad cyffredin bro i'r gweddw, ei phlentyn bach, a'i rhieni, tlws oedd teyrnged ei hen feistres iddi ddydd ei hangladd, sef Lady Priestley, Trefan, yr unig ferch oedd yn y cynhebrwng.
Tarawiadol, hefyd, oedd ei bedd blodeuog, mor debyg i'w bywyd, yr hyn, hefyd, oedd yn awgrym o'r gwanwyn gwell, pan
"Fydd dorau beddau'r byd,
Ar un gair, yn agoryd."
Y Sul dilynol sylwodd y Rheithor yn dyner ac addas yn y bregeth ar ei bywyd tirion, a'r gwersi ddysg byrder ac ansicrwydd y cyfryw.
Lora gûn, ar elor gynnar-heddyw
Roddwyd yn llif galar
O ddeol y siriol, îs âr,
Bedd du, hebddi, yw daear. - Cybi.