LLANIESTYN MARW.
Dydd Sadwrn, y 16eg o'r mis hwn hebryngwyd gweddillion Mrs. Lizzie Jones, o 20 Park Street, Porth yr hon fu farw ar ôl tua tri diwrnod o gystydd caled yn 31 oed.Annwyl briod Mr, J. W. Jones a merch ieuengaf Mrs. Williams a'r diweddar Mr. Robert Williams, Gelliwig Farm ydoedd, a chwaer Mrs. Williams, Myfyr Farm, Llaniestyn, ger Pwllheli a Mrs. Harding, Ogof, Machynlleth.
Cymerodd y gladdedigaeth ym mynwent Eglwys Llanarmon. Gwasanaethwyd gan y Ficer, Y Parch. J. Davies B.A.
Mae ein cydymdeimlad yn fawr â Mr. Jonesa'i ddau blentyn bach a'r fam a'r brodyr a'r chwiorydd yn eu galar.