CHWILOG.
DAMWAIN ANGEUOL.
Cyffrous iawn fu pethau yn vr ardal uchod, Llun y Pasg, yn ganlyniad i ddamwain a derfynodd yn angeuol i fachgen ieuanc.Peter Jones, 16 oed. Mab Mr G. Jones, Dolwyn, Llanarmon, oedd yr un anffodus, yr hwn a wasanaethai gyda'i ewvthr, Mr Richard Williams, yn Bryncaled.
Dychwelyd adref yr ydoedd gyda cheffyl a throl, ac ymddengys i'r ceffyl droi yn sydyn am gornel yn "Pedair Croeaslon," ac iddo droi y drol, a chaed y bachgen ar lawr ar ei gefn a llorp y drol ar draws ei frest a'r ceffyl ar hyny.
Yr oedd amryw bersonau yn pasio ar y pryd, ond ni fu byw ond am ychydig eiliadau, a symudwyd y corph i Lanarmon.
Yn y trengholiad, a gynhaliwyd y dydd dilynol, o flaen Dr Hunter Hughes, pan yr oedd y Parch J. Walters, Llanarmon, yn flaenor, dygwyd rheithfarn o "Farwolaeth ddamweiniol."