DIGWYDDIAD ALAETHUS YN NHREFOR.
Tri o Blant wedi eu Gwenwyno i Farwolaeth.
Taflwyd ardal Trefor, Llanaelhaiarn, i fraw mawr gan farwolaeth sydyn tri o blant ieuainc mewn canlyniad i wenwyniad, sef Mair Eluned, 2 blwydd a 7 mis oed; Maggie Grace Owen, ei chwaer, 4 blwydd a 5 mis oed genethod i Mr a Mrs Owen, 5 West End Terrace, a William Kirkpatrick 3 blwydd a mis oed, mab i Mr a Mrs Kirkpatrick, 3 West End Terrace, Trefor.Cynhaliwyd trengholiad gan Mr O Robyns Owen (crwner) gyda rheithwyr yn cael eu blaenori gan Mr K Lloyd Jones, ysgol-feistr. Mynegwyd mewn tystiolaeth a byddai y tri plentyn bychan yn arfer a myned i chwareu i faes cyfagos ac y gallasent fod wedi bwyta dail neu lysiau gwenwynig. Dywedai un tyst ei fod wedi eu gweled yn chwareu a chaws llyffant ac y gallent fod wedi bwyta peth o'r cvfryw. Bu y bachgen yn wael am rai dyddiau a bu farw ddydd Sul. Tarawyd Eluned fach yn wael tua 7 o'r gloch foreu Sadwrn a bu farw yn hwyr yr un dydd. Bu yr eneth hynaf farw nawn Sul.
Sylwodd Mr Robyns Owen fod caws llyffant yn cynwys gwenwvn marwol ac y dylid rhybuddio plant rhagddo gan ei fod mor debyg i mushrooms.
Tystiodd Dr Rowlands a Dr R Jones Evans, Pwllheli, eu bod wedi gwneyd archwiliad meddygol ar weddillion y plant a chael eu bod wedi marw mewn canlyniad; i wenwyniad oddiwrth ryw lysiau neu wreiddiau gwenwynllyd y rhai yn ôl pob tebyg a fwytawyd ganddynt pan yn chwareu yn y maes.
Dychwelwyd rheithfarn yn unol a thystiolaeth y meddygon a phasiwyd pleidlais o gydymdeimlad a'r teuluoedd yn eu profedigaeth chwerw.