Damwain Angeuol yn Chwarel yr Eifl.
TRANC ADFYDUS HEN CHWARELWR.
Brydnawn Iau, fel yr oedd Mr. William Williams, Sea View Terrace, Trefor, yn dilyn ei orchwyl yn Chwarel yr Eifl, syrthiodd darn mawr o graig ar ei gefn gan ei wasgu i farwolaeth.Ymddengys ei fod wedi saethu rhan o'r graig yn y bore, a'i fod yn ceisio rhoddi pylor yr ail dro yn y lle, a phan oedd wrth y gorchwyl hwnw llithrodd y plygion ar ei gefn.
Efe oedd y mwnwr hynaf yn y chwarel, roedd vn 72 mlwydd oed ac wedi gweithio tua 50 mlynedd yn y chwarel.
Herald Gymraeg 02/06/1914
DAMWAIN ANGEUOL YN Y CHWAREL.
Tua phump o'r gloch nawn Iau (fel yr hysbyswyd yn ein rhifyn diweddaf) brawychwyd trigolion y pentref gan y newydd fod Mr William Williams, Sea View, wedi ei ladd yn y chwarel. Creigiwr oedd y trancedig ac ystyrid ef yn feistr trwyadl ar ei waith peryglus. Yr oedd wedi treulio oes wrth y gorchwyl yn y chwarel, ac wedi bod yn neillduol o ffodus rhag damwain ar hyd yr holl gyfnod maith gan mor ofalus a medrus ydoedd. Yr oedd yn 71 oed. Gedy ar ei ô weddw, pedwar o feibion a dwy ferch mewn galar dwfn.Nid oes ond deufis er pan fu farw merch i'r trancedig yn sydyn iawn. Y mae un o'i feibion, Mr John Williams, Croeshigol Terrace yn llywydd Pwyllgor y Gweithwyr am y flwyddun, ac yn flaenor yn eglwys Maesneuadd, ac un arall Mr Hugh Williams yn Is-arweinydd y seindorf leol, ac yn organydd Maesneuadd.
Claddwyd nawn Sadwrn ym mynwent Llanaelhaiarn, y Parch J. Evans Owen, Llanberis, a rheithor Llanaelhaiarn, yn gwasanaethu. Cafodd yr hen weithiwr parchus un o'r angladdau mwyaf a welwyd yn yr ardal. Cynhahsliwyd y trengholiad nawn Sadwrn gan Mr O Robyns Owen a deuddeg o reithwyr i ba rai y dewiswyd Mr J. G. Jones, Bakehouse, yn flaenor. Yr oedd yn bresenol Mr Ellis W. Davies, A.S., yn cynrychioli Undeb Cenedlaethol y Chwarelwyr; Mr A. H. Wheeler. Arolygwr y Chwarel, a. Mr R. Rowlands. Is-arolygydd, Mr Owen R. Jones, Arolygydd Mwnfeydd i'r LIywodraeth. Mr John Williams, Croeshigol Road, a dystiai mai ei dad oedd yr ymadawedig.
Nid oedd wedi gweled y ddamwain er ei fed yn gweithio ar yr un bonc. Yr oedd tua chan llath o'r fan y bu'r ddamwain. Clywodd swn y cerryg yn disgyn a rhedodd i'r fan. Gwelodd gorph ei dad, a thybiai ei fod wedi marw yn y fan. Yr oedd ei dad yn greigiwr profiadol. Cymerodd y ddamwain le tua haner awr wedi pedwar. Yr oedd yr ymadawedig wedi bod yn tanio yn y fan tua dau o'r gloch. Gweithia yno hefyd y diwrnod blaenorol. Mewn atebiad i Mr O. R. Jones, ni allai ddweyd a oedd ei dad wedi ei orchymyn yno gan y swyddogion. Wyddai neb yn well na'i dad pa le oedd yn beryglus gan ei fod wedi cael dros 50 mlynedd o brofiad gyda'r gorchwyl. Nid oedd ef (John Williams) yn abl i ffurfio barn am berygl gan mai settsman oedd wrth ei alwedigaeth. Tybiai Mr John Jones, Aelfryn, ei fod yn settmaker yn chwarel yr Eifl. Yr oedd yn y chwarel adeg y ddamwain o fewn tuag 20 llath i'r trancedig. Twrw'r cerrig yn syrthio a alwodd ei sylw at y ddamwain. Gwelodd y trancedig o dan garreg.
Mewn atebiad i Mr O R. Jones, nid oedd wedi sylwi beth oedd yr ymadawedig yn ei wneyd ar y pryd. Byddai yn gweled swyddogion y chwarel yn y bore bob dydd a byddent yn sylwi ar y graig.
Mewn atebiad i Mr Ellis Davies, dywedodd mai i fyny y graig yr oedd yn gweithio ar y pryd, a daeth i lawr gyda'r ceryg. Yr oedd yno rai ar y bonc yn deall ambulance a rhedasant yno yn uniongyrchol. Tystiai Mr John Cooke, Eifl Road, i'r un perwyl.
Dywedai Mr R. Rowlands, is-reolwr y chwarel. ei fod wedi bod ar y bonc 11-50 bore'r Mercher, a sylwodd fod y graig yn beryglus. Dywedodd wrth foreman y bonc am rwystro neb i'r fan. Gorchymynodd y trancedig i fyned yno (trwy y foreman) i dynu'r grair beryglus i lawr. Y trancedig fyddai yn arfer gwneyd gwaith o'r fath yn y rhan yno o'r gwaith, efe oedd i y cymhwysaf o bawb at y gwaith. Taniwyd y graig gan y trancedig dair gwaith ddydd Mercher. Taniwyd am naw unarddeg a dau o'r gloch ddydd Iau. Ni bu efe (Mr Rowlands yno ddydd lau) Tybiai mai rhyw bymtheg neu ddeunaw pwys o bowdr roed yn y graig ddydd Mercher a dydd lau. Yr oedd y foreman ar y bonc adeg tanio bedwar ddydd lau. Nid oes neb all ddweyd pa beth oedd y trancedig yn ei wneyd adeg y ddamwain.
Mewn atebiad i Mr Ellis Davies. ni thybial fod unrhyw fai ar y trancedig ond mai damwain hollol ydoedd. Ymddiriedai pawb ynddo fel creigiwr medrus a gofalus dros ben. Anhawdd fyddai cael ei well.
Wrth symio i fyny dywedodd Mr Robyns Owen fod yn amlwg fod y trancedig yn ddyn celfydd yn ei waith, ac yn ôl y tystiolaethau mai damwain hollol fu'r digwyddiad alaethus. Dychwelwyd rheithfarn o farwolaeth ddamweiniol. Cynigiodd Mr Wheeler bleidlais o gydymdeimlad a'r teulu yn eu galar a'u profedigaeth. Dywedodd fod y diweddar Mr Wm. Williams yn ŵr a barchai yn fawr fel dyn ac fel gweithiwr, ac er ei fod yn 71 mlwydd oed, efe oedd y creigiwr goreu yn y chwarel, ac anhawdd yn sicr fuasai cael ei well.
Cefnogwyd gan Mr John G Jones a phasiwyd mewn distawrwydd trwy i bawb sefyll ar eu traed.