MARW.
Nawn Llun, ar ol cystydd cydmarol fyr, bu farw yr hynafgwr, Mr. Evan Hughes, Llwynbrig, yn 77 mlwydd oed. Brodor o'r ardal - mab Galltderw, oedd yr ymadawedig, ac yma y treuliodd yr oll o'i oes faith. Bu am flynyddau maith yn gweithio yn chwarel yr Eifl, ond ers rhai blynyddau bellach, amaethu ei dyddyn oedd ei unig orchwyl. Bu farw ei briod rai blynyddau yn ol, a'i unig ferch ers llai na dwy flynedd. Brawd ydoedd i Mr. Elias Hughes, cyn ysgolfeistr Rhydyclafdy, Lleyn. Gedy ar ei ol bedwar o feibion, un yn yr Amerig ac un arall yn ysgolfeistr mewn safle dda yn Doncaster, swydd Efrog. Aelod ffyddlawn ydoedd yn Eglwys Gosen (M.C.)Claddwyd ddydd Iau yn Llanaelhaiarn, y Parch. W. L. Jones, Babell, yn gwasanaethu wrth y ty, a'r Parch. T. Jones, y rheithor, a'r Parch. John Phillips (B) yn y fynwent.