WEDI MARW.
Chwith genym gofnodi marwolaeth Mr Griffith Jones, Cwmcoryn, yr hyn a fu boreu Sadwrn, ar ôl dros bedwar mis o gystudd, yn 77 mlwydd oed.Treuliodd ran o'i oes ar y mor ac yn New Zealand.
Yr oedd yn aelod ffyddlon a gwerthfawr yn eglwys Saron, ac yn un a berchid yn fawr gan bawb. Cymeriad distaw serchus a boneddigaidd ydoedd bob amser.
Claddwyd ei weddillion pnawn Mawrth yn mynwent eglwys y plwy pryd y gwasanaethwyd gan y Parchn J. Phillips a T. Jones, offeiriad y plwyf. Gwelsom yn bresenol ymhlith y dorf y Parchn William Davies, Trefor, Cadeirydd Cymanfa Bedyddwyr Arfon; W. J. Jones, Cwmcoryn, a, Dr J. W. Rowlands, Llanaelhaiarn, ei feddyg. Cafodd angladd barchus iawn.
Traddodir pregeth angladdol iddo yng nghapel Saron, nos Sul nesaf (Mai 10) gan y gweinidog.
Herald Gymraeg 05/05/1914
MARWOLAETH HYNAFGWR.
Dydd Sadwrn, Ebrill 25ain bu farw yr hynafgwr addfwyn Mr Griffith Jones, Cwm-coryn, yn 77ain mlwydd oed, ac a gladdwyd y dydd Mawrth dilynol yn mynwent Llanaelhaiarn.Gwasanaethwyd wrth y tŷ gan y Parchn. J. Phillips, Saron, a W. Lewis Jones, Babell, a'r Rheithor yn y llan ac wrth y bedd.
Yr oedd yn gymeriad a fawr hoffid ar gyfrif ei gymwynasgarvvch a'i haelioni i'r ardalwyr, a chwith fydd gan Fedyddwyr Saron golli y fath aelod defnyddiol o'u mysg.
Heddwch i'w lwch.