TREFOR MARW.
Ddydd Mawrth, yr wythnos ddiweddaf, ar ôl dioddef cystudd maith a blin, bu farw Mrs. M. A. Davies, anwyl briod Mr. Wm. Davies, 5, New Street, yn 49 mlwydd oed.Yr oedd yr ymadawedig yn gymeriad hawddgar, ac yn aelod dichlynaidd o eglwys Maesneuadd (A).
Hebryngwyd ei gweddillion gan dorf barchus, nawn Sadwrn. i fynwent Eglwys Llanaelhaiarn, y Parch H. Davies (A.) Abererch, yn gwasanaethu yn y tŷ ac ar lan y bedd.