MARW A CHLADDU.

Chwith genym orfod cofnodi marwolaeth yr hen frawd, Mr. Richard Jones, Croeshigol Terrace 'yr hen lanc' fel yr adnabyddid ef gan gylch eang o gyfeillion).

Bu farw ddydd lau, cyn y diweddaf, yn nhy ei chwaer ym Methesda, Arfon, lle yr arhosai er yr rhai misoedd. Tarawyd ef a'r parlys tua blwyddyn yn ôl ond gwellhaodd ar ôl hwnnw fel ag i allu symud o gwmpas, a mynychu'r capei yn achlysuroi.

Brodor oedd yr ymadawedig o Lanfairfechan, ond mae'n debyg mai yn yr ardal hon y treuliodd y rhan fwyaf o'i oes. Bu yn gweithio yn yr Amerig am gyfnod. Yr oedd yn adnabyddus iawn hefyd tua Phenmaemmawr, a Phenrhyndeudraeth, lle y bu yn gweithio am beth amser. Un o gymeriadau goreu y fro oedd yr ymadawedig cymeradwy gan bawb o'i gydweithwyr.

Rhagorai fel Ysgrythyrwr ac mewn ffyddlondeb i fodd ion gras. Crwydrodd lawer i wrando pregethwyr mwyaf Cymru - elai i Lanfairfechan bob Pasg ac i Bethesda bob Sulgwyn i'r cyrddau pregethu, a meddai i dalent arbenig i gofio ac i ail adrodd y pregethau a glywai er budd eraill.

Yn ôl ei ddymuniad ei hun ychydig cyn marw, cludwyd ei weddillion i orphwys hyd ganiad yr udgorn ym mynwent Eglwysig Llanaelhaiarn, ddydd Mawrth diweddaf, ac aeth nifer fawr o'i hen gyfeillion o Drefor i'w hebrwng i dŷ ei hir gartref. Diau y buasai llawer mwy wedi myned oni bai am erwinder y tywydd, ac ansicrwydd amser cyrhaeddiad y cerbydau o Fethesda. Gwasanaethiwyd yn y fynwent gan y Parch T. Jones, periglor y plwyf a'r Parch Caleb Williams, cyn-weinidog Gosen, Trefor.

Yr oedd yr ymadawedig o fewn ychydig i gyrhaedd ei 72 mlwydd oed.

Herald Gymraeg 24/02/1914


MARWOLAETH.

Mae genym y gorchwyl prudd gofnodi marwolaeth Mr Richard Jones yr hyn a ddigwyddodd yn nhŷ ei berthynasau yn Bethesda, Arfon, ac efe, 71 mlwydd oed.

Daethpwyd a'i gorff i orffwys ym mynwent Llanaelhaiarn dydd Mawrth diweddaf, pryd y gwasanaethwyd yn yr Eglwys ac ar Ian y bedd gan y Parchn. S. T. Davies a Thomas Jones, a chaed gair am dano fel cymeriad i'w efelychu gan y Parch Caleb Williaims, Bwlan.

Yr Udgorn 25/02/1914