MARW BABAN.

Yr wythnos ddiweddaf cofnodem farwolaeth hen wraig oedranus - y gyntaf o'r pentref eleni i ymadael a'r fuchedd hon. Yr un gyntaf i'w dilyn i'r fro dywell oedd Annie, baban bychan tri mis oed Mr. a Mrs. Robert Japheth, Lime Street. Claddwyd ddydd Iau, ym mynwent Eglwys Llanaelhaiarn. Cydymdeimlir a'r rhieni a'r teulu yn eu profedigaethau.

Herald Gymraeg 03/02/1914