MARWOLAETH A CHLADDEDIGAETH.

Prydnawn Sabboth, y 19eg cyfisol, bu farw Mrs. Barbara Williams, Brynhyfryd Bakery, wedi cystudd trwm, yn 59ain mlwydd oed.

Yr oedd yn aelod ffyddlon a gweithgar yn nghapel Saron (B.). Cludwyd ei gweddillion i fynwent y plwyf ddydd Iau diweddaf.
 
Gwasanaethwyd wrth y tŷ gan y Parch. John Phillips, gweinidog Saron, ac yn yr Eglwys gan y Pchn. T. Jones, y ficer, a J. Phillips, ac ar lan y bedd gan y Parchn. J. Phillips, Caleb Williams, B A., a'r Ficer.

Cymdeimlir yn fawr a'r teulu oll yn eu profedigaeth chwerw. 

Yr Udgorn 29/01/1913