BETHESDA A'R CYLCH.

MARWOLAETH ALAETHUS.

Fel yr hysbysir yn ngweithrediadau y brawdlys, Caernarfon, gohiriwyd gwrando achos un o'r cyhuddedigion oherwydd ei waeledd, hyd y frawdlys nesaf.

Un o wyr Bethesda ydoedd hwnw, gwr ieuanc lluniaidd o gorph a ohwim ei gerddediad, 26 mlwydd oed, o'r enw Owan Pritchard, Gerlan (Bryniau gynt).

Ymddengys iddo yn Nghaernarfon, ddydd Mercher, tra yn disgwyl ei hrawf, gael ei gymeryd yn wael, mor wael fel y gohiriwyd ei achos. Cafodd ei ollwng yn rhydd dan feichiafon a dydd Gwener dygwyd ag ef gartref, gyda phob gofal.

Yn ebrwydd wedi iddo gyrhaedd, gweinyddwyd arno yn ofalua gan Dr Griffith, ond er pob ymdrech i'w adfer, bu y truan farw prydnawn Sadwrn, a hyny yn ol cred y cyffredin ohonom am iddo gymeryd yr helynt yn ormod ato.

Y mae yr amgylchiad yma a'r ddedfryd drom roddwyd ar y troseddwyr eraill, wedi megis syfrdanu yr ardalwyr a braw.

Yr Herald Gymraeg 02/11/1897