BETHESDA A'R CYLCH.

DAMWAIN ANGEUOL.

Yn Chwarel y Penrhyn, oddeutu hanner dydd Mawrth, cyfarfyddodd Mr Richard Rowlands, Brynbella (brawd Dr Rowlands, Llanaelhaiarn), a damwain fu yn angeuol iddo nos dranoeth.

Ymddengys ei fod adeg y ddamwain gyda'i orchwyl, tua hanner dyfn ei fargen, ac yn rhwym wrth raff, yn tynu plyg pryd, yn ddiarwybod iddo y syrthiodd piler o uwchlaw iddo, gan ei daro yn ei goes nes ei dryllio yn arswydus. Dringwyd ato yn y fan, a rhwymwyd ei archollion gan rai cyfarwydd a'r gwaith, cyn ei symud or lle, a chludwyd ef i'r meddygdy.

Gwelwyd yno gan y meddygon mai yr hyn fyddai oreu ei wneyd fyddai tori ymaith ei aelod, er mwyn ceisio arbed ei fywyd; ac at y gorchwyl hwnw cafodd meddyg y chwarel, Dr Mills Roberts gynnorthwy Drs Lloyd, Bangor, a Griffiths, Bethesda, a gorphenwyd erbyn hwyr noswaith y ddamwain; ond, fel y dywedwyd yn barod, bu y truan farw oddeutu saith o'r gloch nos dranoeth.

Claddwyd ef ddydd Sadwurn yn Mynwent Glanogwen. a daeth tyrfa anarferol o fawr i'w gynhebrwng.

Gadawodd wraig ac un eneth fechan i alaru eu colled ar ei ol.

Yr Herald Gymraeg 28/09/1897