BETHESDA A'R CYLCH.
CLADDEDIGAETH MASNACHWR.
Dydd Mercher diweddaf, claddwyd Mr R. T. Jones, Sheffield House, Carneddi, yr hwn, er yn wr ieuanc, heb gyrhaedd ei ddeugain oed, oedd yn un o'r masnachwyr mwyaf llewyrchus ac anturiaethus yn yr holl fro.Yr oedd yr angladd yn gyfyngedig i'r teulu ac ychydig o gymydogion. Gwasanaethwyd ar yr achlysur gan y Parch John Owen, B.A., Gerlan. Yr oedd yr ymadawedig yn un o'r cymeriadau mwyaf hynaws yn yr ardal, a chydymdeimilir yn fawr a'r weddw ieuanc ac a'r plant bach amddifad adawyd ar ol.