BETHESDA A'R CYLCH.
MARWOLAETH A CHLADDEDIGAETH HEN FLAENOR.
Yn bur ddisymwth, wedi ond prin wythnos o waeledd, cymerodd angau ymaith yr hen dad, Mr Robert Thomas, Cefn Cwlyn, yr hwn am faith flynyddau fu yn flaenor ffyddlawn a gweithgar gyda'r Methodistiaid Calfinaidd yn Gerlan, a chyn hyny yn Brynteg.Prydhawn ddydd Mercher, daeth tyrfa fawr i'w hebrwng i dy ei hir gartref yn Glanogwen. Gweinyddwyd yn ei angladd gan y Parchn. J. Owen, B A Gerlan; R Williams, M A Llanllechid; a Thomas Roberts, Jerusalem.