BETHESDA A'R CYLCH.

DAMWAIN ANGEUOL.

Rai wythnosau yn ol, cyfarfu gwr ieuanc, deg ar hugain oed, o'r enw William Matthew Jones, Brynteg, a damwain ddifrifol yn Chwarel Pantdreiniog, yr hon yn mhen ychydig ddyddiau a brofodd yn angeuol iddo.

Ymddengys fod y trancedig, adeg y ddamwain, wrth ei orchwyl, ac yn grogedig wrth raff, yn tynu plyg, pryd, yn ddisymwth, yr ymollyngodd darn o graig uwchlaw iddo, gan ddisgyn ar ei goes nes ei thorri yn erchyll.

Aethpwyd ag ef i'w gartref, pryd y gweinyddwyd arno gan Dr Lloyd; ond er pob ymdrech a gofal, bu y truan farw, fel y crybwyllwyd, cyn pen yr wythnos wedi'r digwyddiad, ar ol dioddef ohono boenau arteithiol.

Nos Wener cynhaliwyd trengholiad, pryd y dychwelwyd rheithfarn o “Farwolaeth ddamweiniol.”

Gadawodd y trancedig weddw a thri o blant bychain.

Yr Herald Gymraeg 26/01/1897