MARWOLAETH.

Nos Fawrth, ar ol wythnos o gystydd caled, dan y clefyd enyniad yr ysgyfaint, bu farw y cyfaill hoff Mr. John Hughes, Dolydd Terrace, (Penybryn gynt) yn 48 mlwydd oed. Tarawyd ef yn wael yn y capel boreu Sul, wythnos i'r diweddaf, a bu farw nos Fawrth, er pob gofal o eiddo y meddyg a'r teulu.

Gedy briod a dau o blant i alaru ar ei ol. Y mae ein cydymdeimlad a'i fachgen, yr hwn sydd yn yr Unol Dalaethau. Anhawdd yw sylweddoli fod dyn mor gadarn yn olwg ag ydoedd ein cyfaill, wedi ei dori i lawr. Yr oedd yn gymeriad a fawr hoffid gan bawb, ac yn aelod ffyddlon ym Methel, M.C.

Bwriedir claddu ddydd Sadwrn yn Llan Ffestiniog.

Herald Gymraeg 07/07/1914