Bore Sul diweddaf, bu farw yr hen chwaer rinweddol, Mrs. Margaret Roberts, Maes y Neuadd, Tanygrisiau. Yr oedd o fewn ychydig wythnosau i fod yn 95 mlwydd oed.
Credwn ei bod yr hynaf yn y plwyf. Hebryngwyd ei gweddillion i fynwent Llan Ffestiniog, dydd Iau. (Angladd Anghyhoedd). Gwasanaethwyd gan y Parch. Thomas Hughes, Rhiw.