Y DDIWEDDAR ELIZABETH JONES, BLAENAU FFESTINIOG.

GAN E. C. ROBERTS, DENVER.

Ionawr 4, 1900, wedi blynyddoedd o ddyoddefiadau dirdynol y cancer, bu farw Elizabeth Jones, Bryn Hyfryd, Blaenau Ffestiniog, yn 77 mlwydd oed.

Claddwyd ei gwetddillion y Llun canlynol yn yr un bedd a'i diweddar wr William Jones yn naear gysegredig Llan Ffestiniog.

Gadawodd i alaru yr ymadawiad prudd dri mab, sef William Tyson Jones yn Ffestiniog, Lewis yn Nhalaeth Washington; Hugh yn Nhalaeth Maine; gydag un ferch, Mary Tyson Williams, "Cartref y Cymry," Denver, Colorado. Yn ychwanegol at y perthynasau agosaf a chylch cyfrin y teulu, dylynwyd gweddillion yr hen fam hon yn Israel i "dy ei hir gartref," gan fyddin o edmygwyr a charedigion, o herwydd yr ydoedd pawb yn Sir Feirionydd a'r Siroedd cylchynol yn adnabod "Betsan Jones," merch yr anfarwol "Mari Tyson, Ty Canol."

Deallwn i'w hunig ferch, Mary Tyson Williams, fyned yr holl ffordd o'r Mynyddoedd Creigiog i geisio lleddfu ychydig ar boenau ei mam oedranus, i liniaru ei hingol arteithiau, i dyner wylio ei chamrau i lawr serth lechweddi glyn cysgod angeu, i ddylyn ei gweddillion i "ddinas y meirwon," i hidlo diagrau gweddill y caredigrwydd a ddangoswyd tuag at y byw ar y ddiorchest dywarchen a locha ddystaw lychyn yr olaf-anedig o blant y Ty Canol, ac i weled cauad dorau hen Aceldama gysegredig y teulu, i beidio agor mwyach hyd ganiad yr udgorn diweddaf.

Yn marwolaeth Mrs. Jones disgynodd i fedd un o'r cymeriadau mwyaf parchus, yr aelod diweddaf o hen deulu nodedig—darganfyddwyr llechi pen tai yn y rhanbarth, dadblygwyr adnoddau Sir Feirionydd, a chreawdwyr Blaenau Ffestiniog.

Y Drych Chwefror 8fed 1900.