FFESTINIOG A'R CYLCH.

HUNANLADDIAD.

Cychwynodd Joseph Ephraim, Highgate, foreu Gwener at ei waith i Chwarel y Graigddu, ond ni welwyd ef yno, ac ni ddaeth yn ol adref y noson hono.

Aed i chwilio am dano yn ystod y nos, ac yn y boreu, caed ef yn Chwarel y Manod wedi marw, ac arwydd amlwg, trwy doriad y gwddf ag ellyn, ei fod wedi cvfarfod a'i ddiwedd yn ganlyniad tori ei wddf. Yr oedd tua 30 oed, yn wr priod, a chanddo ddau o blant, ac yn dra ffyddlawn gyda phethau crefyddol.

Caed amryw brofion, fel yr hyslbysir ni, ei fod wedi syrthio yn ei feddwl y dyddiau blaenorol.

Nos Sadwrn, cynnhaliwyd trengholiad, pam y caed iddo gyflawni hunanladdiad tra allan o'i 'bwyll.

Yr Herald Gymraeg 06/07/1897