FFESTINIOG A'R CYLCH.

ER COF.

Oherwydd prinder gofod, ni chawsom yr wythnos ddiweddaf gyfeirio at farwolaeth Mrs Jones, anwyl briod Mr Robert Jones, Belle View, Llan Ffestiniog, a mam Mr W. M. Jones, athraw llafurus a medrus Ysgol y Bwrdd, Talysarn.

Un o rai rhagorol y ddaear oedd Mrs Jones, ac un a hoffai yn ddirfawr weinidogaeth yr efengyl, ei haelodaeth, a gwasanaethu yn y cysegr yn ei chylchoedd, yn mynwent y Llan, trwy angladd angyhoedd y claddwyd hi, pan y gweinyddai y Parch T. Lloyd (M.C.), Engedi, lle yr oedd yn aelod ffyddlawn.

Byddai wrth ei bodd yn gwasanaethu gweinidogion yr efengyl yn y Cyfarfod Misol.

Yr Herald Gymraeg 13/04/1897