FFESTINIOG A'R CYLCH.
TRENGHOLIAD.
Prydnawn Llun, cynhaliodd Mr R. O. Jones, is-grwner sir Feirionydd, drengholiad ar gorph Nehemiah Williams, Hafod Fawr, yr hwn a gyfarfyddodd a'i farwolaeth yn Chwarel Voelgron ddydd Gwenen. Nid oedd y corph wedi ei symud o'r chwarel, a bu raid i'r rheithwyr fyned oddeutu pum milldir er gallu ei weled, a chynhaliwyd y trengholiad yn un o'r tai yn ymyl y chwarel.Yr oedd Mr O. Rowland Jonas (arolygydd) yn bresennol ar ran y Swyddfa Gartrefol. Mae'n ymddangos i tua deugain tunell o graig ymollwmg yn ymyl y lle y gweithiai y trancedig, ac er iddo geisio dianc, darfu i Nehemiah Williams gael ei gladdu dan y rwbel. Yr Arolygydd Morgan a dystiodd fod y corph mewn cyflwr difrifol pan ddaethpwyd o hyd iddo.
Gofynodd Mr John Edwards, Teilia Bach, brawd y trancedig, am i'r trengholiad gael ei ohirio fel ag i aJluogi i'r teulu gael cyfreithiwr i ymddangos ar eu rhan. Caniataodd y crwner ei gais, a gohiriwyd y trengholiad hyd ddydd Gwener.
Dydd Gwener, yr oedd yn bresennol Dr Foster, Mri G. J. Williams ac O. R. Jones, Arolygwyr Mwnau ei Mawrhydi. Teimlid dyddordeb mawr yn yr achos, a gwylid yr achos ar ran y perchenog gan Mr J. J. Morris, cyfreithiwr, a'r teulu gan Mr John Humphreys, Porthmadog. Cafwyd rheithfarn o ''Farwolaeth ddamweiniol."