FFESTINIOG A'R CYLCH.

Y DIWEDDAR IOAN GLAN PRYSOR.

Oherwydd gorlawnder, ni chawsom yn eich rhifyn diweddaf grybwyll am farwolaeth Mr J. Rowlands (Ioan Glan Prysor).

Cymerodd hyny le yn nhy ei ferch, Mrs Griffith Owen, Meona House, Bethania, ac efe yn 77 mlwydd oed. Yma y cafodd ymgeledd dda a gofal teilwng wedi marwolaeth ei wraig.

Yn Trawsfynydd y ganwyd yr ymadawedig ac y treuliodd y rhan fwyaf o'i oes. Y rhan olaf yn Blaenau Ffestiniog. Yr oedd yn fardd gwir awenyddol ac yn englynwr campus. Cyrhaeddodd un llyfr awenyddol da. Gallai droi at liaws o alwedigaethau fel oriorydd, cerfiwr, yn arbenig ar gerig beddau.

Y mae iddo lu mawr o oloeswyr perthynasol yn Nhrawsfynydd, Ffestiniog, a Dolwyddelen.

Yn perthyn iddo, hefyd, y mae y Parchn W. Parri Huws., B.D., Dolgellau; G. P. Huws, Nefyn. Ei fab hynaf sydd yn America, a Mr Robert Rowlands yn Mlaenau Ffestiniog.

O ran crefydd, perthynai i Eglwys Loegr, ac yr oedd yn Geidwadwr selog. Rhagora ei fab hynaf yn America a'i fab ieuengaf yn y wlad hon, fel dadganwyr gwych.

Yr Herald Gymraeg 05/10/1897