FFESTINIOG A'R CYLCH.

MARWOLAETH MR C WARREN ROBERTS.

Gyda syndod neillduol y derbyniwyd yr hysbysrwydd yn mhobman am farwolaeth pur sydyn y boneddwr uchod.

Cymerodd hyny le chwarter wedi un dydd Mawrth, Mai lleg, yn ei breswylfod, Plas-waenydd. Deallwn ei fod yn y chwarel yn dilyn ei ddyledswyddau y dydd Mercher blaenorol, "yn gosod" a.y. i'r gweithwyr. Pa fodd bynag, cymerwyd ef yn wael iawn gan y diphtheria, yr hwn hefyd a aeth yn glefyd y galon, fel yr hysbyswyd ni, ac er pob ymdrech o eiddo ei feddyg medrus (Dr R. Jones), daeth y diwedd yr adeg a nodwyd.

Cofia, eich darllenwyr i Mr Roberts gael ei apwyntio fel olynydd i'r diweddar Mr Evan Thomas fel prif reolwr Chwarel y Llechwedd yn y flwyddyn 1887. Felly bu dros naw mlynedd yn brif swyddog y Mri Greaves ar y chwarel, ac yn yr ardal, ac yn llanw lle mawr yn eu syniadau hwy fel y cyfryw.

Gallwn gasglu ei fod tua 43 mlwydd oed. Gadawodd weddw a dau o blant. Pan y derbyniwyd y newydd yn Mhorthmadog nawn dydd Mawrth, heblaw yn wharfs y Mri Greaves ac Oakeley, ceid arwyddion o alar ar amryw o longau y porthladd.

Merch hefyd yw Mrs Roberts i'r diweddar Mr Humphreys, fferyllydd, High-street, yn yr un dref. Yn ei gysylltiad a Bwrdd Lleol Ffestiniog am flynyddoedd, gwnaeth Mr Roberts wasanaeth da. Yr oedd yn ddiau yn un o'r aelodau mwyaf medrus arno. Yr oedd ei brofiad fel peiriannydd o wasanaeth mawr. Efe hefyd am gyfnod hirfaith oedd cadeirydd y pwyllgor arianol; ac yn y cylch hwn meddai ddyheurwydd neillduol.

Y mae yn debyg mai y cylch cyhoeddus, ac o bosibl y cyfarfod cyhoeddus olaf mewn cysylltiad a'r ardal y bu ynddo oedd cefnogi y symudiad o gael mamaethod lleol i Ffestiniog. Yr oedd wedi credu'r syniad yn gryf. Siaradodd yn dda arno, a llawn fwriadai ei gario allan, mewn undeb ag arweinwyr lleol ereill a'i cynnorthwyant, ond daeth y diwedd yn ddi-symwth.

I berchenogion y chwarel, bydd marwolaeth sydyn eu cyfaill a'u prif swyddog yn ergyd drom.

Dylem ychwanegu fod y trancedig o ran teuluyddiaeth yn fab i Mr H. Beaver Roberts, gynt o Leamington, yr hwn hefyd sydd yn fab-yng-nghyfraith i'r di-weddar Mr Wyatt, yr hwn a fu yn brif reolwr i Mr Beaver Roberts fel un o berchenogion Chwarel Croesor, am dymhor, ac i yn dra hysbys hefyd, mewn cylchoedd ereill yn Arfon.

Dydd Gwener, pan y cymerodd yr angladd le, llwyr attaliwyd gwaith yn Chwarel y Llechwedd. Preifat oedd yr angladd, a daearwyd y gweddillion yn mynwent y Llan. Cychwynwyd am un o'r gloch o Plasweninydd.

Mewn eisteddiad neillduol o'r cynghor dinesig, nos Fercher, pasiwyd pleidlais o gydymdeimlad a'r teulu, a gohiriwyd y cyfarfod.

Yr Herald Gymraeg 18/05/1897



FFESTINIOG A'R CYLCH.

MARWOLAETH MR C WARREN ROBERTS.

Cymerodd angladd y boneddwr uchod le dydd Gwener.

Yn unol a'r trefniadau blaenorol, mi bu gweithio drwy y dydd yn chwarel y Llechwedd, a chymerodd y gweithwyr a'u teuluoedd fantais ar y cyfle i weled y cynhebrwng yn pasio i fynwent y Llan. Yr oedd y trefniadau yn hollol private; a'r Parch Cadwgan Price yn gofalu am y gwasanaeth angladdol.

Yn y cerbvd cyntaf yr oedd meddygon yr ymadawedig : Mri. Roberts a Jones, y Parch Cadwgan Price, a Mr R. Walker Davies.
Yna dilynai yr elorgerbyd. Yn y cerbyd nesaf yr oedd Mrs C. Warren Roberts, Mrs (Dr) Jones, Brynmarian, Mrs Henley (chwaer Mrs Roberts), a Mr H. Beaver Roberts, (tad yr ymadawedig).
Yn y cerbyd nesaf yr oedd Mr Arthur Roberts, y Parch TL Lewis {brawd-yng-nghyfraiith), Miss Edith Warren Roberts (meroh), a Master Charles Roberts (mab).
Yn y pummed cerbyd yr oedd Mr J. Ernest Greaves a Mr R. M. Greaves.
Yn y chweched cerbyd, Mr a Mrs Rowton, Cartre; Mr William Owen. Isallt; a Mr William Davies, ieu., U.H., Cae'rblaidd.
Yn y seithfed cerbyd, Mr Newton Jones, Bank; Mr William Humphreys, Mr Cadwaladr Humphreys, a Mr R. G. Humphreys.
Yn yr wythfed cerbyd yr oedd yr undertaker, Mr David Jones, a phedwar o'r elorwyr, a gweithwyr yn y chwarel, sef Mri. John Jones, Llwynygell; William Jones, Cyffdy; Hugh William Hughes, Talywaenydd;, a William Roberts, Dolwyddelen.
Yn y nawfed cerbyd yr oedd pedwar o elorwyr, sef Mri. Griffith Griffith, Park-square, Thomas Parry, gof; E. R. Jones, Glasfryn; a John Morgan, Llechwedd.

Yn y Llan, ymunwyd a'r cynhebrwng gan Mr Partridge, llywydd Cymdeithias y Llechfasnachwyr.

Yr oedd wreaths wedi eu hanfon gan Mr a Mrs J. E. Greaves, Mr a Mrs R. M. Greaves, Mr a Miss Reidy, Dr a Mrs Jones, Mr a Mrs William Owen, Mr Thomas Jones, Mr a Mrs Bowton, Mr T. M. Johnson, Mr C. H. Walker, Mr Edwin Foulkes (y garddwr), a Chymdeithas y Llechfasnachwyr.

Yr Herald Gymraeg 25/05/1897