PORTHMADOG.
MARWOLAETH MR. ROBERT OWEN.
Boreu ddydd Gwener, am hanner awr wedi un, bu farw y boneddwr uchod, yn ei breswylfod, yn 68 mlwydd oed.Gadawodd briod galarus ar ei ol a naw o blant, yn cynnwys Dr R. G. Owen Llangefni; Mr Willie Owen, arianydd yn Llanrwst; a Mr J. R. Owen, aelod o ffirm y Mri Richard Williams a'i Fab, Porthmadog; y gweddill ydynt Mrs Arthur Morris, Miss K. Owen, a.y.
Y mae amryw o blant wedi eu claddu yn mynwent y teulu yn Ffestiniog (y Llan). Yn ystod y 50 mlynedd diweddaf ni bu neb yn fwy adnabyddus yn nghylchoedd cyhoeddus Ffestiniog na'r ymadawedig, ac y mae ei yrfa er yn blentyn hyd ei fedd yn engraipht darawiadol beth a all gwir ddiwydrwydd a phenderfyniad ei gyrhaedd a'i wneud hefyd, er heb fanteision addysgol boreu oes. Y mae adgofion cyntaf eich cynnrychioydd am Mr Owen yn ei osod allan fel chwarelwr ieiunc parchus yn gofalu am ei fam weddw. Collodd ei dad pan yn saith oed; ac o'r diwrnod hwnw allen, un o nodau mawr ei fywyd ac a gyflawnodd hefyd oedd gofalu am ei fam weddw.
Nid cywilydd ganddo grybwyll a chyhoeddi'r ffaith lawer gwaith iddo fynd i'r chwarel yn ei "glocsiau" i ddarbod, ar ei chyfer hi ac yntau a gweddill y teulu wedi colli y tad. Yr oedd yn un o'r chwarelwyr goreu a fagodd Ffestiniog erioed, ac wrth gwrs, yn ol yr hen drefn, o weithio, sef, hollti a naddu gydo'r gyllell bach.
Er y bu am ryw bump neu chwe blynedd yn Awstralia, ac yno, fel yn chwareli Ffestiniog yn ddarbodus, dychwel a ddarfu yn ol i'r hen wlad i lanw cylchoedd ymddiried mawr.
Dewiswyd ef i ddechreu yn oruchwyliwr Chwarel y Rhydbach, lle y bu am nifer o flynyddoedd yn ei dadblygu yn llwyddiannus. Wedi hyny, gwnaed ef yn oruchwyliwr Chwarel y "Welsh Slate," neu Chwarel y Rhiw, Ffestiniog, a bu yn ei llywodraethu hi gydla llwyddiant mawr am tua 22 o flynyddoedd. Rhifai ei gweithwyr o 500 i 800, yn ei blynyddoedd mwyaf llwyddiannus. Pan y terfynodd y brydles, ac yr aeth i feddiant Cwmni Oakeley, terfynodd cysylltiad Mr Owen a hi.
Ar ol hyny, cymaint oedd meddwl un o brif feddiannwyr y Welsh Slate ohono fel y bu raid iddo wedi hyny ymgymeryd a phrif reolaeth leol Chwarel Cwnorthin, lle y gweithiai rhyw 300. Bu yno am bum mlynedd.
Oherwydd gwaeledd iechyd, nis gallai roddi ei holl amser yma, ac yn ystod y naw mlynedd diweddaf preswylai yn Mhorthmadog, lle yr ydoedd, hefyd, yn un o aelodau owmni Mr Richard illiams a'i Fab, ac yn fawr ei barch yn y dref. Nid yw y nodion brysiog uchod ond crybwyllion am Mr Owen yn ei gysylltiad a chwareli.
Y mae iddo hanes maith a dyddorol yn mywyd cymdeithasol a chrefyddol plwyf Ffestiniog. Ymrithia ugeiniau o gylchoedd yn y festris, y byrddau ysgol a phlwyfol, a'r rhan amlwg a gymerai ef ynddynt gyda dyddordeb i feddwl pawb wrth glywed am ei farwolaeth.
Medda ar ffraethineb a ffordd o ddyweud ei feddwl a hir gofir. Yn ei gylchoedd crefyddol Annibynwr ydoedd. Mwynhaodd yr efengyl yn fawr ar hyd ei oes. Gwrthod cymeryd yr enw o ddiacon a ddarfu yn eglwysi Salem a Brynbowydd, Ffestiniog, er gofyn iddo, ond yno ac yn heneglwys Bethania, lle y magwyd ef, gwnaeth waith 'blaenor.' Am flynyddoadd lawer yn Mhorthmadog yn hen eglwys Mr Ambrose, derbyniodd yr alwad, ac y maent hwy a'u gweinidog, y Parch W. J. Nicholson, a'r holl dref heddiw mewn galar, wedi colli un anwyl a hoff.
Eisteddem wrth ei ochr yn Nghapel Salem fis yn ol, pan y pregethai y Parch E. James, Nefyn, ar y geiriau, "Bydd ffyddlawn hyd angau."
Dirfawr y mwynhai y gwironeddau blasus. Wrth fynd tua chartref dywedai "Nid oes dim yn debyg i'r hen efengyl wedi'r cwbl."
Cyn terfynu, goddefer i ni grybwyll am Mrs Owen; hithau fel yntau yn un o blant Ffestiniog, yn ferch i'r diweddar fasnachwr Mr W. Jones, y Rhiw, ac yn chwaer i Mr D. G. Jones, Glasgow House. Er yn Fethodist o ran dygiad i fyny ymunodd a'r Annibynwvr, a bu yn bob cymhort i Mr Owen yn ei holl gylchoeddd pwysig, ac yn ymgeledd cymhwys iddio hyd ddiwedd ei oes.