FFESTINIOG A'R CYLCH.

Y DIWEDDAR HUMPHREY JONES, SHOP YR HALL.

Wele eto un o'r hen frodorion ac un adnabydduvs iawn yn y plwyf, wedi marw yn gymharol ieuanc, sef 54 mlwydd oed.

Cymerodd hyn le, nos Fercher. Swynol iawn ydoedd yr ymadawedig pan yn anterth nerth ac iechyd, a bu yn llwyddiannus yn ei gylchoedd masnachol, a gwasanaethodd ei blwyf fel gwarcheidwad, am flynyddoedd.

Gadawa weddw a nifer o blent dymunol ar ei ol. Y ddau fab hynaf yn cychwyn mewn cylchoedd masnachol oddicartref yn Lerpwl a Gwrecsam.

Ei frodyr ydynt y Meistri John Lloyd Jones, prif oruchwyliwr Votty a Bowydd; Edmund Ll. Powell, a William Powell. Claddwyd ef ddydd Llun, angladd anghyhoedd.

Yr Herald Gymraeg 02/03/1897