MARW YN Y CHWAREL.
Boreu Llun, Mehefin 8fed, brawychwyd yr ardal pan wnaed yn hysbys fod Mr. Henry Parry (20 mlwydd oed) mab Mr. a Mrs. David Parry, 2, Walter Terrace, Blaenau Ffestiniog, wedi syrthio yn farw yn chwarel Votty a Bowydd, yn mhen ychydig funudau ar ol dechrau gweithio.Cynhaliwyd trengholiad ddydd Mawrth yn yr adeiladau sirol, gan Mr. R. O. Jones, trengholydd y sir, a deuddeg o reithwyr. Dewiswyd Mr. William Powell yn flaenor. Ar ran yr heddlu yr oedd yr Arolygydd Owen, yn bresenol.
Tystiodd Mr. David Parry (tad y bachgen) ei fod yn 20 mlwydd oed, ac yn fachgen iach bob amser. Gweithiai yn chwarel Votty a Bowydd ers tua phedair blynedd, fel engine dricer, ac aeth at ei waith yn hollol iach boreu Llun.
Tystiodd Mr. W. Thomas Jones, Baltic Hotel, iddo fod gyda'r trancedig bore Llun tua 7.30. Yr oeddynt yn siarad a'u gilydd, ac ni fu iddo gwyno o gwbl. Cymerodd lestr oil i roddi olew i'r peiriant cyn dechrau ar ei waith, a syrthiodd i lawr ymhen pum munud ar ol iddo ddechreu gweithio.
Dywedodd Dr. R. D. Evans, iddo gael ei alw am 7.45 boreu Llun, ac yr oedd yn y chwarel 8.10, ond yr oedd y bachgen wedi marw. Credai mai achos ei farwolaeth oedd methiant y galon. Yr oedd yn fachgen cryf ac iach bob amser, ond gallasai ei fod wedi bwyta brecwast trwm, ac fod prysuro yn ormodol at ei waith wedi achosi ei farwolaeth.
Bwriwyd rheithfarn yn unol a thystiolaeth y meddyg. Pasiwyd pleidlais o gydymdeimlad a'r teulu yn eu profedigaeth sydyn. Claddwyd ddydd Iau yn mynwent Bethesda.