MARW BLAENOR.

Bore Sul, bu farw Mr. Henry Jones, Bod Ifor, Manod Road, yn 56 mlwydd oed. Cymerwyd ef yn wael y dydd Llun blaenorol yn chwarel y Graigddu. Genedigol ydoedd o Ysbyty Ifan. Daeth i weithio i chwarelau FFestiniog pan yn ieuanc iawn, a bu am gyfnod yn yr America. Dewiswyd ef yn flaenor yn eglwys y Gwylfa M.C. ar agoriad y capel, lle bu yn ffyddlon ac yn swyddog defnyddiol. Chwith genym ei golli. Claddwyd dydd Iau ym mynwent Bethesda, a chynhaliwyd gwasanaeth cyhoeddus yn y capel am 1-30.

Herald Gymraeg 31/03/1914