FFESTINIOG A'R CYLCH.
MARWOLAETH.
Ar ol maith cystudd a blynyddoedd o lesgedd, ddydd Sabbath, yn y Market square, Blaenau, yn 70 mlwydd oed, bu farw Mr Rowland Edwards.Bu yn amryw fanau yn byw yn ystod ei oes yn Trawsfynydd, Llandecwyn, Tanygrisiau, ac am y rhan olaf o'i oes yn y parth uchod.
Yn mhob man cvfrifid ef yn ddyn meddylgar, yn dduwinydd da, ac yn Gristion disglaer.
Yr oedd wedi ei alw hefyd i wasanaethu fel blaenor gyda'r M.C., cyn ac wedi dod i Ffestiniog, ac yn dra chymeradwy yn nghyflawniad ei swydd. Yn ei berthynas a'r Ysgol Sabbathol cyfarfod gweddi, yr oedd yn un o'i "tywysogion."
Dygodd deulu lluosog i fyny, ac yn eu mysg rai meddylgar a defnyddiol fel ynteu.
Yn ei angladd yn Bethesda, ddydd lau, gweinyddwyd gan y Parch R. J. Williams.