DOLGELLAU.
MARWOLAETH.
Bore Llun, y 30ain o Awst, bu farw (ar o1 cystudd blin) Mr Robert E. Evans, mab y diweddar Rowland Evans, Lombard-street.Dilynodd ei waith hyd y tair wythnos diweddaf y bu byw.
Dydd Iau diweddaf, daeth tyrfa fawr i'r angladd. Gwasanaethwyd wrth y ty ac ar lan y bedd gan y Parch Mr Roberts, gweinidog y Bedyddwyr.
Yr oedd yr ymadawedig yn ddyn ieuanc a fawr berchid yn y dref oherwydd ei fywyd cyson. Yr oedd pump o weinidogion gwahanol eglwysi y dref yn ei gladdedigaeth. Gwnaeth y Parch Mr Roberts (B.), sylwadau teimladwy iawn ar lan y bedd. Dywedodd fod yr ymadawedig wedi bod yn aelod gweithgar yn yr eglwys, yn ysgrifenydd egniol i'r gymdeithas ddirwestol, ac y byddai bwlch yn yr eglwys ag mewn gwahanol gylchoedd ereill ar ei ol.
Bu farw yn 32 mlwydd oed. Gadawodd weddw a phlentyn bach i alaru eu colled, ac hefyd mam weddw, yn nghyd a chwiorydd a brawd.