MR.EVAN R. WILLIAMS, DOLGELLAU.

Drwg genym orfod hysbysu am farwolaeth gyn-amserol y brawd da uchod.
Yr oedd yn fab i'r diweddar frawd Mr Boas Williams, yr hwn fu yn aelod ffyddlon ac adnabyddus yn eglwys Dolgellau am luaws mawr o flynyddoedd. Bu ein cyfaill ymadawedig yn nychu o'r darfodedigaeth am gryn amser, a hunodd yn dawel nos Lun, Medi 7fed, yn 25 mlwydd oed. Gosodwyd ei weddillion marwol i orphwys yn mynwent y dref y dydd Iau canlynol.
Gadawodd i alaru ar ei ol briod ffyddlon, mam ofalus, a nifer o frodyr a chwiorydd. Y mae yr eglwys o ba un yr oedd yn aelod a'i gyfeillion yn y dref yn teimlo bwlch a chwithdod ar ei ol, oblegid yr oedd yn frawd neillduol o ffyddlon a thawel. Nid wyf yn meddwl fod neb wedi dyoddef cystudd maith a blin gyda mwy o hunan-feddiant a gwroldeb tawel nag a wnaeth ef.
Ni chlywodd neb ef yn grwgnach o'r dechreu i'r diwedd. Yr oedd yn meddu ar awydd lenyddol gref, a chwaeth dda hefyd. Daliodd ati i ddarllen a dilyn cwrs amgylchiadau hyd nes iddo fyned yn rhy wan i wneyd hyny. Fel aelod o'r eglwys, yr oedd yn weithgar ao ymroddgar gyda'r holl gyfarfodydd eglwysig a chyda'r Ysgol Sul.
Bu yn arolygwr yr ysgol am un tymhor. Teimlir yn ddwys dros y teulu sydd mewn hiraeth a galar.

Seren Cymru 20/11/1896