MR. BOAZ WILLTAMS, DOLGELLAU.
Mab ydoedd yr uchod i Daniel ac Ellen Williams, Sign Horse, Caernarfon. Yr oedd efe yn ieuengaf o un ar ddeg o blant. Ganwyd ef yn Nghaernarfon, Rhagfyr laf, 1823; ond cafodd ef ei ddwyn i fyny, ar ol marw ei rieni, gyda modryb iddo yn y Rhydd-hir. Bu am oddeutu dwy flynedd yn egwyddorwas o saddler yn Nghaernarfon; ond gan nad oedd ganddo hoffder mawr at yr alwedigaeth hono, egwyddorwyd ef yn Foundry y dref. Wedi gorphen yno, bu mewn amryw leoedd yn Neheudir Cymru, ac yn ymberffeithio felly yn ei alwedigaeth.Oddeutu'r flwyddyn 1851, daeth i Ddolgellau, at Mr. John Humphreys. Ni fu yno yn hir, oblegyd cafodd le yn ngwaith Dolfrwynog, Ganllwyd; wedi hyny yn Caegwian. Pan yno, daeth i adnabyddiaeth â Catherine Roberts, Cefndeuddwr, merch i Mr. Henry Roberts, pregethwr cymmeradwy gyda'r Wesleyaid yn ei ddydd; a brawd iddi hi hefyd yw y Parch. Evan Roberts, (M.C.) Dolgellau. Ymunodd y ddau mewn glân briodas yn y flwyddyn 1854.
Ganwyd iddynt naw o blant, wyth yn awr yn fyw. Felly parhaodd yr undeb am oddeutu 41 mlynedd; a gellir dweyd na fu erioed undeb mwy dedwydd a hapus. Cafodd fyw i fagu ei blant, a'u gosod ar ben y ffordd; ei ofal am y rhai, fel y cawn sylwi eto, oedd yn fanwl a diderfyn, oblegyd eu bod iddo fel canwyll ei lygaid.
Bedyddiwyd ef yn un o bump yn Ebrilli 1859, yn medyddfan Dolgellau, gan ei hen gyfaill, y Parch. Henry Morgan, a bu yn ffyddlon i'w broffes hyd ei fedd. Bu droion yn arweinydd y gân am flynyddau, ac yn gwir ofalu am wahanol ranau y gwaith mawr mewn cyssylltiad a'r achos yn Glanrafon, ger Dolgellau; a'i dŷ am flynyddau yn agored i weision Duw.
Dichon mai y ffordd rwyddaf i ni roddi darluniad egwan o'i rinweddau a'i ragoriaethau fyddai sylwi arno, yn gyntaf.
Parhad o'r coffa yn Y Greal Ebrill 1895.