Bu farw, nos lau, y Parch Evan Roberts, Dolgellau. Ganwyd ef yn 1830 mewn ffermdy bychan ger Harlech, ac yr oodd yn ddeg mlwydd oed cyn iddo erioed fyned i ysgol ddyddiol,
er ei fod wedi dysgu darllen Cymraeg a Saesneg yn yr Ysgol Sabbothol yn Bontddu, lle yr aeth ei rieni i drigo.
Dygwyd ef i fyny gyda'r Wesleyaid, gyda'r hwn enwad y pregethai ei dad yn achlysurol, ond pan tua 18 oed ymunodd y mab a'r M.C.
Dechreuodd bregethu yn 1856, ac yn 1858 aeth i Goleg Duwinyddol y Bala, lle y profodd ei hun yn un o'r myfyrwyr blaenaf.
Ordeiniwyd ef yn 1864, a bu yn bugeilio yn Nghemaes, a Llanwrin, Trefaldwyn; Hockley Hill, Birmingham; ac Engedi, Caernarfon.
Wedi arhosiad o bedair blynedd ar ddeg yn Nghaernarfon pallodd ei iechyd, ac yn unol a chyfarwyddyd meddygol derbyniodd alwad gafodd o'r Dyffryn.
Fodd bynnag, daliodd i nychu fel y bu raid iddo roddi heibio ofal bugeiliol, ac am ugain mlynedd olaf o'i oes bu yn trigo yn Nolgellau.
Bu yn llywydd y Cyfarfod Misol, ac yn 1901 fe'i hetholwyd yn gymedrolwr y Gymanfa Gyffredinol.
Dydd Llun, claddwyd gweddillion y Parch Evan Roberts, Dolgellau, yn y fynwent rydd.
Gweinyddwyd gan y Parch R. Morris, Mr Evan Morris (gynt o Birmingham), Parch John Pritchard, Birmingham; Mr J. E. Roberts, Y.H., Bangor;
Mr Evan Evans, Cemaes; Parch W. M. Griffith, Dolgellau; Parch Parri Huws, a'r Parch Joseph Jenkins.