YNADLYS PWLLHELI.
Y Feistres a'i Morwyn.
Cyhuddai yr Arolygydd John Thomas, ar ran y Gymdeithas er Atal Creulondeb at Blant, Mabel Toleman, Arden, West End, Pwllheli, o arfer creulondeb at ei morwyn, geneth 14 mlwydd oed o'r enw Margaret Hughes, o Gaernarfon.Parhaodd yr achos am amryw oriau a thaflwyd ef allan.
Ymddangosodd Mr. William George ar ran y gymdeithas a Mr E. R. Davies ar ran y ddiffynyddes.
Tystiodd Mrs. Elizabeth Hughes, mam yr eneth, ei bod yn byw yn 27 Marcus Street, Caernarfon. Yr oedd ei gŵr yn arfer a bod yn commercial traveller, ond yr oedd wedi ymuno a'r fyddin, ac yr oedd yn awr yn yr ysbyty wedi ei glwyfo. Arferai Mrs Toleman fyw yn yr un heol â hi yng Nghaernarfon pan ydoedd yn Miss Sweatman ac yn ysgolfeistres. Daeth Mrs. Toleman i'w thy i Gaernarfon, a chytunodd i gyflogi yr eneth fach i fyned i edrych ar ôl ei phlant am gyfiog o 2s. 6c. yr wythnos. Nid oedd i wneyd dim ond gofalu am y plant. Mewn llythyr a anfonodd Mrs. Toleman iddi hi cyhuddai yr eneth fach o ladrata arian perthynol iddi. Ni nododd unrhyw swm yn y llythyr. Ond pan aeth hi i dŷ Mrs. Toleman i Bwllheli gofynodd a oedd wedi dod a'r arian a ladrataoedd yr eneth gyda hi. Dywedodd fod yr eneth fach wedi dianc ymaith y boreu hwnw.
Atebodd y dyst nad oedd wedi derbyn arian oddiwrth yr eneth ond y 10s a anfonodd o gyflog adref. Aeth y tyst a Mrs. Toleman i'r orsaf heddgeidwadol i wneyd ymchwiliad am yr eneth.
Dywedodd Mrs Toleman wrthi ar y ffordd am beidio son am yr arian wrth yr heddlu. Pan aeth hi yn ôl i dy Mrs. Toleman yr oedd yr eneth fach wedi dod yn ôl, a gwadai yr eneth ei bod wedi cyffwrdd yn yr arian. Penderfynodd fyned a'r eneth adref. Archwiliodd hi ei dillad yn y box, ac nid oedd arian ynddo. Yr oedd yr eneth fach yn edrych yn ofnus iawn yn mhresenoldeb Mrs. Tolemian, ond gwadai ei bod wedi cymeryd yr arian. Er hyny talodd hi 10s. i Mrs. Toleman fel ad-daliad o'r arian rhag rhoddi cyhoeddusrwydd i'r mater a phoeni ei gŵr. Yr oedd yr eneth yn gleisiau mawr drosti, ac yn newynog iawn. Aeth hi a'r eneth i'w harchwilio gan Dr. Parry Edwards.
Yn ateb i Mr. E. R. Davies dywedodd nad oedd yn wir nad oedd hi byth yn rhoddi llefrith a chig i'r plant pan adref. Tystiodd Margaret Hughes, yr eneth fach, ei bod wedi anfon y 10s. cyflog a gafodd gan Mrs. Toleman i'w mam. Nid oedd Mrs. Toleman yn garedig wrthi. Nid oedd yn cael bwyd, ac yr oedd yn ei bygwth am nas gallai weithio digon. Yr oedd yn gofalu am y baban, ac yr oedd y baban yn wylo ac yna gwnai Mrs. Toleman iddi syrthio ar ei gliniau a churai hi ar draws ei phen ac ar draws ei hysgwyddau am adael i'r baban wylo. Gorfodid hi i godi chwarter i saith yn y boreu, ac os na allai oleu y tan mewn deng munud ni chai frecwast. Unwaith y buodd fod heb frecwast. Yr oedd hi yn hollol sicr na ladrataodd y 1p 10s fel y cyhuddid hi gan Mrs. Toleman.
Dywedodd Mrs. Toleman wrthi os na wnai cyfaddef ei bod wedi cymeryd yr arian y byddai iddi hi ei churo. Galwodd Mrs. Toleman ar Mrs. Hall a Miss Hughes i'r tŷ, a bu iddi hithau ddweyd yn eu gwydd ei bod wedi anfon yr arian adref i'w mam. Dywedodd hyny am fod arni ofn Mrs. Toleman. Cyhuddai Mrs. Toleman hi o fod wedi codi yn y nos. Gwadai hithau hyny, a dywedai Mrs. Toleman y byddai iddi ei churo, â ffon a'i throi allan i'r gwlaw os na wnai gyfaddef. Bu iddi hithau ddianc allan trwy y cefn heb ei het na'i chôt i ganol y gwlaw gyda'r bwriad o fyned adref. Cymerodd boneddiges ofal o honi tra yr oedd yn wylo ar ochr y ffordd. Yr oedd yn pwyso 4 stone a 13lbs pan ddaeth adref oddiwrth Mrs. Toleman, ac ar Ionawr 10fed yr oedd yn pwyso 5 stone 10 lbs 8 oz.
Yn ateb i Mr. Davies dywedodd nad oedd ei phen yn lan pan aeth at Mrs. Toleman, ac yr oedd mater yn rhedeg o'i chlustiau. Bu i Mrs Toleman roddi crib iddi i lanhau ei gwallt, a meddyginiaeth i'w chlustiau. Nid oedd wedi goleu y tân y boreu y bu heb frecwast hyd 10-30. Yr oedd wedi defnyddio yr holl goed tân, a bu raid iddynt fyned i'r tŷ nesaf i chwilio am goed. Yr oedd yn arfer cymeryd yn rhydd o bob ymborth yn y pantry. Yr oedd wedi cyfaddef wrth Mrs Toleman ei bod wedi anfon punt adref yr wythnos gyntaf y bu yn ei lle. Yr oedd wedi anfon llythyr i'w mam gyda'r arian yn gofyn iddi brynu dillad isaf iddi gyda'r arian a'i bod yn credu na wyddai ei meistres mo'i colli. Yr oedd Mrs. Toleman wedi gofyn yn mha le y cafodd stamp i anfon yr arian a hithau wedi ateb mai yn y llythyrdy yn South Beach gan Mr. Humphreys.
Cyfaddefodd wrth y Rhingyll Lloyd ei bod wedi lladrata 3p. 5s. o arian Mrs. Toleman. Yn ateb i'r Clerc dywedodd ei bod yn cael gwell ymborth adref yn awr nag oedd yn ei gael cyn myned at Mrs. Toleman. Desgrifiodd Dr. Parry Edwards, Caernarfon, fel yr oedd wedi archwilio yr eneth ar gais ei mam. Yr oedd llawer o gleisiau duon ar ei chorff, ac yr oedd mewn cyflwr isel iawn. ac mewn angen ymborth da.
Yn atteb i Mr. E. R. Davies cydnabyddai y gallai plentyn blwydd a deng mis oed Mrs. Toleman fod wedi achosi y cleisiau. Yr oedd cnawd plentyn yn yr ystad hwnw yn llawer mwy tueddol i dderbyn cleisiau. Tystiodd yr Arolygydd Thomas fod yr eneth yn gleisiau dros ei holl gorph. Tystiodd Miss Hughes, Cardiff Road fod golwg wanllyd iawn ar yr eneth pan aeth i wasanaeth Mrs. Toleman. Yr oedd arni wir angen ymborth cryf. Yr oedd yr eneth wedi cyfaddef wrthi hi ei bod wedi lladrata arian perthynol i'w meistres. Nid oedd Mrs Toleman yn ei chyhuddo ar y pryd o gwbl. Cyfaddefodd ohoni ei hun ei bod wedi cymeryd yr arian. Rhoed tystiolaeth cyffelyb gan Mrs. Hall, yr hon oedd bresenol pan ddaeth y fam yno.
Dywedodd y fam y byddai iddi haner ei lladd am yr hyn a wnaeth. Dywedodd Mrs Toleman, y ddiffynyddes, fod mam yr eneth wedi dweyd wrthi ei bod yn abl i wneyd pob math o waith tŷ. Yr oedd ei gwaitih yn dra anfoddhaol. Nid oedd yn codi yn foreu fel y dywedodd. Yr oedd ei dillad yn bur aflan, ac nid oedd ganddi ddillad i'w newid. Bu iddi golli 1p 10s mewn nodau o'r ty. Gwadai hi na chymerodd fwy na 1p o'r arian. Ni bu iddi ei bygwth o gwbl. Dywedodd hi ei bod yn arfer a chodi yn ei chwsg yn y nos. Yn ateb i Mr William George dywedodd na allai yr eneth wneyd dim yn iawn, ac y byddai yn colli ei thymer yn aml. Yr oedd wedi ei chyhuddo o ladrata yr arian, a dywedodd hithau iddi ladrata. 2p 7s. ond nid oedd hi wedi colli ond 1p 10s. Diangodd o'r tŷ ar foreu oer a gwlawog tuag un o'r gloch. Aeth i chwilio am dani i'r tŷ nesaf ac i'r orsaf heddgeidwadol.
Nid oedd cwyn wedi ei wneyd yn erbyn ei dull o ddysgyblu plant tra y bu yn ysgolfeistres. Taflwyd yr achos allan.